Hacio’r Iaith ym Meifod: nos Fercher a nos Sadwrn yng nghlwb COBRA #steddfod2015

cobra-allen-watkin-cc

Helo

Ydych chi ym Meifod eleni?

Ydych chi’n chwilio am ddiod a sgwrs anffurfiol gyda phobl o ledled Cymru a thu hwnt am apiau, fideos, ymgyrchu, ymchwil, busnes, addysg a mwy?

Bydd croeso cynnes i bawb yng nghlwb COBRA ar y ddwy noson ganlynol:

Nos Fercher 5ed mis Awst 2015
5:30YH tan 7:30YH
Clwb Cobra, Meifod, SY22 6DA

Nos Sadwrn 8fed mis Awst 2015
5:30YH tan 7:30YH
Clwb Cobra, Meifod, SY22 6DA

Bydd mynediad am ddim.

Dw i wedi profi’r we trwy ddi-wifr ac mae’n gweithio yn dda!

llun gan allen watkin (Comin Creu)