Uned Technolegau Iaith yn #steddfod2015 – Ap Geiriaduron, labeli meddyginiaethau, CyfieithuCymru a mwy

Mae Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wedi rhyddhau gwybodaeth am ddigwyddiad ar faes yr Eisteddfod ym Meifod eleni:

Arloesi ar gyfer Technolegau Iaith a’r Cyfryngau Digidol

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i sesiwn Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Cynhelir y sesiwn am 4 o’r gloch brynhawn Llun, y 3ydd o Awst, ar stondin Prifysgol Bangor ar faes y Brifwyl ym Meifod.

Dewch i weld y datblygiadau diweddaraf yng ngwaith yr Uned Technolegau Iaith.

Bydd yr uchafbwyntiau eleni yn cynnwys:

  • Diweddariad o’r Ap Geiriaduron sydd yn awr yn gallu dangos diffiniadau, lluniau a diagramau, yn awr yn cynnwys Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (noddwyd gan y Coleg Cymraeg)
  • Labeli Cymraeg meddyginiaethau ar gyfer fferyllwyr (noddwyd gan y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol)
  • Dathlu enillwyr cyntaf y Dystysgrif Ôl-radd mewn Astudiaethau a Thechnolegau Cyfieithu
  • Arddangosiad o system rheoli a darparu cyfieithu CyfieithuCymru
  • Lansio project newydd Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg (noddwyd gan Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru)

Croeso i bawb aros am wydraid o win neu sudd ffrwythau ar ddiwedd y sesiwn.

Cyswlltwch â’r Uned yn uniongyrchol am ragor o fanylion.