Cymreigio’r we: sgwrs panel ar hyrwyddo’r Gymraeg ar-lein #steddfod2015

Rhannu manylion o ddigwyddiad ar faes yr Eisteddfod ydw i:

Sgwrs panel ar hyrwyddo’r Gymraeg ar-lein yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maldwyn a’r Gororau

Lleoliad: Stondin Mentrau Iaith (Rhif y Stondin: M47/M48)
Dyddiad: Dydd Gwener, 7fed Awst 2015
Amser: Rhwng 14.00 a 15.00.

Cadeirydd: Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg360

Panel:

  • Jo Golley, .cymru .wales
  • Iwan Williams, Mentrau Iaith Cymru
  • Huw Marshall, S4C
  • Gareth Morlais, Llywodraeth Cymru
  • Steve Dimmick, Ignite Caerdydd

Bydd cyfle i holi cwestiynau ac am drafodaeth bellach gyda’r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad.