Bantylein – diffiniad

Mae bantylein yn cyflenwi arlein.

Bantylein – dim mynediad rhyngrwyd, heb signal, wedi cau’r gliniadur, wedi cuddio ffoniau, ayyb

Mae’r ystyr bantylein yn glir a chywir. Mae’r term yn lot well na’r ‘byd go iawn’ achos mae arlein yn rhan o’r byd go iawn (ti’n gallu torri’r gyfraith yna, prynu stwff, wneud dy fancio yna, cwrdd â chyd-weithwyr neu briod newydd). Dw i’n argymell y gair fel term swyddogol i’r gymuned Hacio’r Iaith.

10 sylw

  1. ‘oddi ar lein’. Mae ‘bant’ yn ferf a felly mae ‘bantylein’ yn swnio fel ryw scymraeg i fi. Falle fod angen term arall am y byd ‘ddim ar lein’ ond alla’i ddim meddwl am ddim byd addas nawr.

  2. Mae’n swnio fel ‘pantyline’ – Neud fi feddwl am BodyForm…. “Wooooaaahhhhh BodyForm…..”

  3. Rili ddim yn hoffi’r term, siwr gen i
    bo dipyn o ferched yn teimlp run fath ond ddim isho deud, cofn neud ffys. Mae un cam i fyny o ‘zmgtamponsLOLgrooooss’ – digon o hiwmor plentynaidd a blokey ar y we Gymraeg yn barod jolch!

    Be ‘ddarlein?

Mae'r sylwadau wedi cau.