.@ybwrdd yn gofyn am dermau Twitter #termau

[blackbirdpie url=”https://twitter.com/YBwrdd/status/148794390121422850″]

http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/pages/publicationitem.aspx?puburl=/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/20111219+D+DG+Termau+Twitter.pdf

http://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120306093556/http://www.byig-wlb.org.uk/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/20111219%20D%20DG%20Termau%20Twitter.pdf

Fy sylwadau brys i ar awgrymiadau Y Bwrdd:

* Termau:
list == rhestr
mention – beth sy’n bod gyda sôn?
beth yw API?
microblog == meicroflog?

* Cwestiwn. Ydyn ni’n ffafrio Twitter ar draul cystadleuaeth/gwasanaethau eraill? Mae rhaid ystyried y categori, nid un cwmni ar ei ben ei hun. Mae’r Bwrdd yn safoni termau mewn categorïau yn hytrach na chynnyrch – fel yr achos prosesyddion geiriau yn hytrach na Microsoft Word. Wrth gwrs does neb yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y maes meicroflogio yn 2012. Siŵr bydd mwy o arloesi a defnydd yn y categori tu hwnt i gwmni Twitter. Er enghraifft mae http://identi.ca/ (sy’n seiliedig ar http://status.net/ , system dan GPL Affero) a Yammer yn bodoli yn yr un categori.

5 sylw

  1. Ydi hwn ar gyfer darlledwyr yn bennaf? Gwybod bod dipyn o anghysondeb terminoleg wedi bod yno yn y misoiedd diwethaf.

    Dwi wedi bod yn defnyddio ‘trydariad/trydariadau’ am ‘tweet’ er mwyn gwahaniaethu berf ac enw. Dyma enghreifftiau eraill: http://cy.umap.eu/trydariad/

    Pam bod TweetDeck yna?

    “native retweet” == “ail-drydar brodorol” ?

    Ddim yn hoffi mensh rhyw lawer chwaith. Heb ei weld yn cael ei ddefnyddio ar Twitter.

    Ond pam bod dim cyfieithiad i hash tag? Dwi wedi setlo am “tag hash” fel y cyfieithiad lleiaf trwsgwl, a mwyaf dealladwy, ond efallai bod gair Cymraeg gwell am “tag”.

    Dwi di bod yn defnyddio “pynciau llosg” ar gyfer “trending topics/trends” ar Umap ers mis Ionawr a di gweld sawl un yn cyfeirio atyn nhw fel hynny. http://cy.umap.eu/llosg/

    Ond mae dy bwynt sylfaenol am roi sgôp llawer ehangach i hyn yn bwysig. Ella ffordd mwy crowdsoruced o wneud y job yma? Da ni’n trafod termau’r we wedi’r cyfan!

  2. Sylwadau brysiog (ychwanegol) gen i:
    Mae angen ‘favourite ‘fel berf hefyd – ffefrynnu?
    Dw i ddim yn licio’r ‘mensh’ chwaith…efallai sôn… pam lai tan fod yna awgrym gwell?
    O ran ‘trydar’, dwi’n falch fod BYIG ddim wedi awgrymu Trydar fel cyfieithiad o Twitter – un fuddugoliaeth yn fan yna @carlmorris!
    Ond dwi YN licio trydar fel tweet ac fel tweetio. (Felly’n anghytuno efo @nwdls). Mae adar yn trydar (berf) ac rydan ni’n clywed trydar (enw) yr adar. Felly dim problem yn y Gymraeg wrth drafod adar fod enw a berf yr un peth, felly pam fod angen gwahaniaethu efo pobl a’u trydar / pobl yn trydar?

    Rydan ni hefyd yn ôlffeminyddol (neu gynffeminyddol!) wrth i ni fod yn drydarwyr/trydawr hefyd 😉

    Un cam arall ar daith ydy hyn wrth gwrs…

  3. O ran fy sylw am dorfoli, ro’n i’n meddwl amdano fel ffordd dda o ddod o hyd i’r holl ddefnydd a permutations o air yn hytrach na gwneud penderfyniad ar gyfer termiadur. Mae angen i rywun wneud penderfyniad ar y derminoleg ‘swyddogol’ yn y pen draw, sydd ddim yn golygu bod angen i bawb ei ddefnyddio wrth gwrs!

  4. Mae sawl problem gyda ‘mensh’ am ‘mention’. Beth fyddai’r lluosog – ‘menshys’? Swnio’n od. Hefyd, beth am y ferf ‘to mention’ – ‘menshio’? Byddai hynny’n rhoi pethau fel ‘fe fenshiodd hi fi ddoe’, sy’n lletchwith iawn, i mi o leiaf. Fel arall rhaid cael ymadrodd yn lle un gair, e.e. ‘cael mensh(ys) gan …’, ‘rhoi mensh(ys) i …’

    Mae ‘sôn’ yn well, ond eto mae problemau gan nad oes ffurf luosog fel y cyfryw. Ac nid yw’n enw rhif, hynny yw, does dim modd dweud ‘tri sôn’, mewn gwirionedd. Hefyd, mae’r ffaith fod angen yr arddodiad ‘am’ gyda ‘sôn’ yn creu rhai trafferthion. Does dim modd dweud ‘fe ges i (fy) sôn ddoe’, er enghraifft. Rhaid dweud ‘soniwyd amdana’ i ddoe’, neu ‘roedd sôn amdana’ i ddoe’ etc.

    Mae’r gair ‘crybwyll’ yn gweithio’n well. Mae’n gyffredin fel berf, ond gall fod yn enw (lluosog: ‘crybwyllion’). Felly mae modd dweud: ‘fe ges i fy nghrybwyll ddoe’, ‘dau grybwyll’, ‘llawer o grybwyllion’ , ‘fe grybwyllodd hi fi’, etc. Mae’n air digon cyffredin gan flogwyr, o be wela’i.

Mae'r sylwadau wedi cau.