Syniad ar gyfer rhaglenni Radio Cymru fel Wythnos Gwilym Owen + Y Stiwdio?

Dad-gydgasglu (dadfwndelu?) a thrawsgrifiadau?

Disaggregation splits a programme up from being an unweildy three-hour block of content into lots of discrete bits. This is hard work, and normally requires a human to do it (though there are ways of automating it); but well worthwhile, since it allows your listeners to find pieces of content that they’re interested in.

Transcripts sounds simple: just turning the audio into text. This means that you offer a choice of audio or text – different things please different people – but also means that you can make it easy for Google to index your content. More traffic, mostly from people who are unaware of your brand. Always a good thing.

http://james.cridland.net/blog/on-demand-speech-radio-disaggregation-and-transcripts/

Dylen ni drio cael y gynulleidfa ehangaf posib allan o’n raglenni a byddai hyn yn sicr yn dod â phobol at ddeunydd ymhell ar ôl i’r rhaglen ddod i ben. Mae o eisioes yn digwydd gyda Democratiaeth yn Fyw i raddau. Beth am ei ehangu at faterion cyfoes a diwylliant?

2 sylw

  1. Dw i eisiau dadfwndelu Radio Cymru ar fy mhen fy hun weithiau. Mae iPlayer a thrwyddedau cedwir pob hawl yn gweithio yn erbyn y bwriad.

    O ran S4C bydd crynodebau manwl ar S4C Clic yn ddechrau da. Weithiau mae gyda nhw cyfweliad ar Wedi 7 neu rywbeth heb unrhyw gyfeiriad yn yr RSS a chrynodeb ar y we.

  2. Byddai hyn yn plesio fi’n fawr. Yn aml, ar dydd Sul fel arfer (unig ddiwrnod dwi[‘n defnyddio[r car), dw i’n digwydd troi’r radio ymlaen a mynd i RC a mae yna ambell i raglen difyr ymlaen, unai yn y slot hynny neu’n ailddarllediad. Ond gan bod 80% o output yr orsaf yn (ymddangos yn ) amherthnasol i fi, dw i ddim yn trafferthu’r rhoi’r ymdrech i mewn i ffeidio’r 20% (a mwy?) yna baswn i’n licio. Byddai angen buddsoddiad ar y dechrau mae’n siwr, ond fawr ddim yn ychwnaegol wedyn o ddydd i ddydd. Rhaid bod technoleg gyda i rwan sy’n ei wneud yn beth hawdd i’w gyflawni.

    Dw i’n deall mai torri fyny o fewn rhaglen ti’n sôn amdano fan hyn, Rhodri, ond dw i’n meddwl bod y theori yr un fatho ran gwell disgrifiadu o ran disgrifiad cyffredinol a chynnwys bod yn rhaglen.

Mae'r sylwadau wedi cau.