Y tro ‘ma ar eich hoff bodlediad crasboeth tech Cymraeg: Bryn yn esbonio jyst pam fod DRIP am fusnesa ar eich holl fanylion personol, mwy ar ffonau Microsoft yn colli 18,000 o weithwyr (ac un cwsmer o’r enw Sioned), a chipolwg ar y ‘Tripadvisor’ Cymraeg “Ar y Ffordd”. Hyn oll a llawer mwy i’ch clustiau… Parhau i ddarllen Haclediad #38: tripiau haf a chips poeth
ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd
Mae’n rhaid dweud fy mod i’n chwilfrydig am gynlluniau Hacio ar ôl gweld y hysbyseb swydd yma, yn enwedig am sut mae’r newyddiadurwyr proffesiynol yn gweithio gyda gwirfoddolwyr ifanc. Ond os ydych chi am geisio am y swydd dw i’n credu eich bod chi’n rhy hwyr yn anffodus! Newyddiadurwr Ar-lein – ITV Cymru Wales Lleoliad… Parhau i ddarllen ITV Cymru/@Hacio i lansio cynllun newyddion ar-lein newydd
Haclediad #37: Google… anghofia hi.
Tro yma ar yr haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn rhoi Nest Iest ar Test (iep, thermostat clyfar, w, cyffro!), gofyn i Google ein hanghofio ni, ac yn ail-fyw dyddiau euraidd gemau Nintendo trwy gemau newydd y Wii U o gynhadledd E3 yn Vegas. Ac wrth gwrs, bydd digon o jôcs gwael a thrafod… Parhau i ddarllen Haclediad #37: Google… anghofia hi.
Reddit: cyfrif Croeso Cymru/visit_wales
Mae cyfrif o’r enw visit_wales ar Reddit, dw i’n cymryd taw Croeso Cymru ydynyt. Mae’n eithaf diddorol i weld defnydd o blatfform o’r fath gan sefydliad cyhoeddus. Mae rhai o’r lluniau wedi cael tipyn o drafodaeth. Does dim terfyn ar beth maen nhw yn fodlon gwneud i dynnu sylw (rhybudd: crinjlyd). Pa effaith ar y… Parhau i ddarllen Reddit: cyfrif Croeso Cymru/visit_wales
Wicigyfarfod Caerdydd Rhif 3 (31.5.14)
Cynhelir y trydydd Wicigyfarfod yng Nghaerdydd yn y Central Bar, Plas Windsor, ar ddydd Sadwrn 31 Mai. Dyma ragor o wybodaeth ac i nodi os oes gennych ddiddordeb mewn dod. Croeso cynnes i bawb! (os nad ydych yn hyderus yn gadael nodyn ar y wici gallwch adael sylw yma)
Golwg360 yn newid ei system sylwadau i Disqus
Dywedodd Golwg360: […] mae gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg360 wedi cyflwyno adnodd sylwadau newydd i’r wefan. Bydd darllenwyr bellach yn gallu gadael eu sylwadau ar straeon gan ddefnyddio system ‘Disqus’ sy’n cael ei ddefnyddio’n eang gan flogiau a gwefannau newyddion. Bwriad symud at system sylwadau newydd yn ôl Golwg360 ydy cynnig mwy o gyfleoedd rhyngweithiol i… Parhau i ddarllen Golwg360 yn newid ei system sylwadau i Disqus
Hyfforddiant Wicipedia yn Ninbych, Llangefni a Llandudno
Sesiwn AM DDIM i ddysgu ac ehangu sgiliau golygu Wicipedia Dewch i wybod sut i roi gwybodaeth am eich ardal a’ch diddordebau yng ngwyddoniadur mwyaf a mwyaf poblogaidd y byd. Os yw’n bodoli ar Wicipedia, mae’n debyg ei fod ar frig canlyniadau chwilio ar-lein, felly helpwch sicrhau bod pobl drwy Gymru a’r byd yn medru… Parhau i ddarllen Hyfforddiant Wicipedia yn Ninbych, Llangefni a Llandudno
Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad
Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu… Parhau i ddarllen Haclediad #36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad
Lansio statiaith.com
Rwyf wedi lansio statiaith.com heddiw. Y bwriad yw iddo ymdrin ag ‘ystadegau sy’n ymwneud â’r Gymraeg – a rhagor’, fel y mae’n ei ddweud ar y pecyn. Yn #haciaith 2014 ym Mangor dangosais un o’r mapiau sydd wedi ei gynnwys yn statiaith.com a dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gyhoeddi. Mae’n dangos y newid yn y… Parhau i ddarllen Lansio statiaith.com
Cofio am Arfon Rhys
Daeth y newyddion trist heno bod Arfon Rhys wedi marw ar ôl salwch byr yn 72 mlwydd oed. Des i adnabod Arfon trwy ddigwyddiadau Hacio’r Iaith ac roedd yn bleser cael ei gwmni hawddgar ar sawl achlysur i drafod sut oedd modd gwneud y defnydd gorau o ddatblygiadau technoleg newydd. Daeth atom yn llawn brwdfrydedd… Parhau i ddarllen Cofio am Arfon Rhys