Mae’r Guardian wedi cyhoeddi dadansoddiad difyr o ieithoedd y byd ar-lein a sut mae pobl yn eu defnyddio. […]Some languages by their very structure mean that you interact with the platform differently. For example, you can say more in the 140 character limit in Chinese than you can in English. Research has shown that Koreans… Parhau i ddarllen Ieithoedd y byd: sut mae’ch iaith yn effeithio ar eich profiad o’r Rhyngrwyd?
Categori: Amrywiol
Swydd: Swyddog Ymchwil Project Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg
Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn chwilio am arbenigwr technoleg lleferydd a/neu gyfieithu peirianyddol i ymuno gyda’r tîm. Y prif ddyletswyddau fydd ymchwilio a datblygu cydrannau technoleg lleferydd, cyfieithu peirianyddol ac allbynnau gweithredu, ateb a llefaru ar gyfer y Gymraeg, gan gynorthwyo i greu prototeip system drawsgrifio Cymraeg. Swydd 8 mis yw hon yn… Parhau i ddarllen Swydd: Swyddog Ymchwil Project Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg
Haciaith Bach *HENO* – Chapter, Caerdydd, 7:30pm – fersiwn Basgeg-Cymreig!
https://twitter.com/Nwdls/status/598115860432158720
Fyddwch Chi Byth Yn Credu’r Hyn Mae @Nwdls Newydd Ddweud Am Fideo Cymraeg Ar-lein. Yn Enwedig Pwynt 9
Dw i’n postio yma rhag ofn bod pobl wedi methu’r cofnod blog ar Y Twll gan Elidir Jones am gynhyrchu fideo annibynnol a’r sylwadau gan bobl gan gynnwys Rhodri ap Dyfrig.
WordPress 4.2 Cymraeg
Y diweddaraf gan WordPress: Ffordd haws o rannu cynnwys Clipio, golygu, cyhoeddi. Ymgyfarwyddwch â’r Press This newydd a gwell. O’r ddewislen Offer, ychwanegwch Press This i’ch bar nodau tudalen yn eich porwr neu sgrin eich dyfais symudol. Unwaith mae wedi ei osod gallwch rannu eich cynnwys yn sydyn iawn. Dyw rhannu eich hoff fideos, delweddau… Parhau i ddarllen WordPress 4.2 Cymraeg
Ysgrifennu yn Gymraeg ar Android
Mae Google wedi cyhoeddi Google Handwriting Input sy’n gweithio mewn 82 iaith gan gynnwys y Gymraeg a’r Wyddeleg. Mae’r rhaglen ar gael oddi ar Google Play. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i ysgrifennu ar y sgrin yn lle defnyddio’r bysellfwrdd. Mae modd ei ddefnyddio i ysgrifennu tecst, llanw blwch chwilio neu dudalen gwe neu ysgrifennu… Parhau i ddarllen Ysgrifennu yn Gymraeg ar Android
Derbyn neges destun pan mae’ch buwch wrthi’n cael babi
Mae’r ddyfais yma yn edrych yn addawol er ei bod hi’n anodd i mi gadarnhau pa mor ddefnyddiol yw hi – achos does dim buwch fenywaidd gyda fi ar hyn o bryd. Pa mor dda ydyn ni am hybu cydweithrediad rhwng y meysydd digidol/technolegol a’r meysydd amaethyddol yng Nghymru tybed?
Windows 10 – Cyfle i ehangu’r adnoddau Cymraeg?
Mae’r rhifyn diweddaraf o’r Microsoft Windows 10 Pro Technical Preview newydd ei ryddhau ddoe, fel un o gyfres cyn rhyddhau’r Windows 10 terfynol yn yr haf – rhywbryd rhwng diwedd Mehefin a diwedd Medi eleni. Mae Microsoft yn awyddus i bawb ddefnyddio Windows, felly bydd ar gael am ddim i unigolion sy’n rhedeg Windows 7… Parhau i ddarllen Windows 10 – Cyfle i ehangu’r adnoddau Cymraeg?
Sleidiau Sgwrs @DyddiadurKate
Dyma sleidiau fy sgwrs ar brosiect @DyddiadurKate. Dwi’n ei rannu efo’r ymwadiad mai rhan o gyflwyniad llafar ydi o, ond plis mwynhewch y linc, porwch y ffynonellau a dilynwch @DyddiadurKate ar twitter! I’r rhai sy’ ddim isie edrych trwy sleidiau, dyma gwpwl o’r linciau: Cyflwyniad i Kate gan Elen Phillips, Curadur yn Sain Ffagan Blog… Parhau i ddarllen Sleidiau Sgwrs @DyddiadurKate
Cychwyn off efo APIs y Ganolfan: llais robot a Cysill #techiaith
Cyflwynodd Patrick Robinson APIs y Ganolfan Technolegau Iaith. (Demo cyflym hawdd o’r llais robot Cymraeg yma!) API (Application Programming Interface) ydy ffordd o gael dy raglen i siarad gyda rhaglen arall er mwyn manteisio ar ddata a gwasanaethau. Siaradodd Patrick am y system testun-i-lais (un o fy hoff bethau ar hyn o bryd!) a Cysill,… Parhau i ddarllen Cychwyn off efo APIs y Ganolfan: llais robot a Cysill #techiaith