Swydd: Swyddog Ymchwil Project Seilwaith Cyfathrebu Cymraeg

Mae Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr yn chwilio am arbenigwr technoleg lleferydd a/neu gyfieithu peirianyddol i ymuno gyda’r tîm. Y prif ddyletswyddau fydd ymchwilio a datblygu cydrannau technoleg lleferydd, cyfieithu peirianyddol ac allbynnau gweithredu, ateb a llefaru ar gyfer y Gymraeg, gan gynorthwyo i greu prototeip system drawsgrifio Cymraeg. Swydd 8 mis yw hon yn y lle cyntaf, tan ddiwedd Mawrth 2016.

Mae’r manylion llawn i’w cael ar wefan swyddi Prifysgol Bangor.