Ysgrifennu yn Gymraeg ar Android

Mae Google wedi cyhoeddi Google Handwriting Input sy’n gweithio mewn 82 iaith gan gynnwys y Gymraeg a’r Wyddeleg. Mae’r rhaglen ar gael oddi ar Google Play.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i ysgrifennu ar y sgrin yn lle defnyddio’r bysellfwrdd. Mae modd ei ddefnyddio i ysgrifennu tecst, llanw blwch chwilio neu dudalen gwe neu ysgrifennu nodiadau, popeth fyddech chi’n defnyddio’r bysellfwrdd i’w wneud. Nes i ddefnyddio pen gyda blaen balwn meddal i ysgrifennu ar fy Nexus 4 a chael canlyniadau da.

Ysgrifennu ar AndroidMae modd ysgrifennu ar y sgrin gan ddefnyddio bys neu ben pwrpasol.

Ysgrifennu Android CymruFyw

 

Wrth ysgrifennu ar y sgrin mae’r llaw ysgrifen yn symud i’r dde – ysgrifennu ym mlwch chwilio Firefox Android

Cyfarwyddiadau Ysgrifennu Android DBJ

Mae peth o’r Cyfarwyddiadau yn Gymraeg – da iawn Google! Dyma gyfle i longyfarch Google am y datblygiad yma ac i ofyn am Gymreigio rhagor o offer mewnbynnu o fewn Android – Adborth i Google

 

*Diolch i Dewi Jones, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor am y llun cyntaf a’r olaf – diolch Dewi!