Mae dilysu’r clipiau yn hanfodol i gael y dechnoleg i weithio ar ei orau. Dyma fideo’n dangos sut i gyfrannu tuag at wrando a dilysu clipiau llais Common Voice Cymraeg. Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!
Awdur: Rhos Prys
Fideo Recordio eich Llais i Common Voice Cymraeg
Fel anogaeth i LOT o bobl gyfrannu eu lleisiau LOT o weithiau i Common Voice Cymraeg, dyma gyflwyniad fideo ar sut mae gwneud. Oes, mae angen *LOT FAWR IAWN* o ddata. 🙂 Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!
WordPress 5.2
Gwaith pellach ar ddatblygu dull newydd WordPress o weithio drwy gyfrwng blociau. Mae’r pwyslais y tro yma ar gadw’r wefan yn ddiogel ac yn iach. Croeso i WordPress 5.2 Mae’r ategyn Classic Editor yn rhwystro’r defnydd o’r Golgydd Bloc newydd. Newid gosodiadau’r Classic Editor. Llongyfarchiadau ar ddiweddaru i WordPress 5.2! Mae’r diweddariad hwn yn ei gwneud… Parhau i ddarllen WordPress 5.2
Firefox Send – gwasanaeth rhannu ffeiliau
Mae Firefox Send yn wasanaeth rhannu ffeiliau rhad ac am ddim y gall unrhyw un ei defnyddio, does dim rhaid defnyddio Firefox na bod a Chyfrif Firefox. Mae modd ychwanegu ffeiliau hyd at 1GB fel defnyddiwr heb gofrestru. Mae maint y ffeiliau’n codi i 2.5Gb i ddefnyddwyr wedi’u cofrestru. Mae cofrestru’n golygu bod â Chyfrif… Parhau i ddarllen Firefox Send – gwasanaeth rhannu ffeiliau
WordPress 5.1
Mae WordPress ar garlam i gael y golygydd newydd “Gutenberg” yn ei le yn ddiogel ac yn gweithio’n dda. Dyma ail ran o’r datblygiad a bydd rhan arall yn cyrraedd ddiwedd Ebrill, gyda WordPress 5.2. Bosib bydd rhai ohonon ni’n cadw at yr hen drefn nes bod y drefn newydd i gyd yn ei le… Parhau i ddarllen WordPress 5.1
Cadw Google a Facebook yn eu lle…
Wyddoch chi fod cwmnïau mawr y we yn eich dilyn o amgylch y we, yn casglu tystiolaeth o’ch ymddygiad ar-lein ac yn ei werthu i hysbysebwyr? Mwyaf o ddata sydd gan hysbysebwyr mwyaf effeithiol mae nhw’n credu y gallan nhw eich targedu. Mae’n fusnes mawr, mae’r biliynau o elw wnaeth Google a Facebook yn seiliedig… Parhau i ddarllen Cadw Google a Facebook yn eu lle…
Rhoi Eicon Common Voice ar Sgrin y Ffôn neu Dabled
Mae’n haws cofio i recordion ar Common Voice gyda eicon ar sgrin y ffôn neu dabled er mwyn cofio. Sut mae gwneud? Ffwrdd â ni… Firefox Android Agor yr ap a thapio’r botwm dewislen tri dot ar y dde, dewis Tudalen a thapio Creu Llwybr Byr Tudalen. Dyna ni, bydd eicon Mozilla’n ymddangos ar sgrin… Parhau i ddarllen Rhoi Eicon Common Voice ar Sgrin y Ffôn neu Dabled
LibreOffice 6.2
Croeso i’r Bar Adnoddau! Mae LibreOffice 6.2 yn cynnwys cynllun rhyngwyneb defnyddiwr newydd – dewisol – o’r enw’r Bar Adnoddau.. Mae’n uno’r barau offer a’u grwpio i dabiau, gan eich cynorthwyo i weithio’n gynt a chlyfrach. Gwyliwch y fideo er mwyn gweld y bar ar waith a sut mae modd i chi ei brofi. https://youtu.be/6HUnR5IoAQk Prosesu… Parhau i ddarllen LibreOffice 6.2
Signal, yr ap negesu preifat ar gael yn Gymraeg
Mae Signal, yr ap negeseuon diogel newydd ei ryddhau’n Gymraeg. Mae modd dewis y Gymraeg drwy fynd i Settings > Appearance a dewis Cymraeg. Bydd y rhyngwyneb yn troi’n Gymraeg. Ar hyn o bryd mae ar gael yn Android yn unig. Mae Signal yn ap sy’n defnyddio’r signal ffôn neu’r rhyngrwyd i gyfathrebu. Mae modd… Parhau i ddarllen Signal, yr ap negesu preifat ar gael yn Gymraeg
Common Voice Cymraeg nawr ar Microsoft Edge
Hyd yma dim ond ar Firefox a Google Chrome mae Common Voice Cymraeg wedi bod ar gael. Heddiw, mae Mozilla wedi cyflwyno newidiadau i’r wefan sy’n golygu ei fod ar gael ar Microsoft Edge, y porwr Cymraeg sydd gan Microsoft yn Windows 10. Mae rhai sefydliadau yn cyfyngu eu dewis o borwr i offer Microsoft… Parhau i ddarllen Common Voice Cymraeg nawr ar Microsoft Edge