Firefox Send – gwasanaeth rhannu ffeiliau
Mae Firefox Send yn wasanaeth rhannu ffeiliau rhad ac am ddim y gall unrhyw un ei defnyddio, does dim rhaid defnyddio Firefox na bod a Chyfrif Firefox.
Mae modd ychwanegu ffeiliau hyd at 1GB fel defnyddiwr heb gofrestru. Mae maint y ffeiliau’n codi i 2.5Gb i ddefnyddwyr wedi’u cofrestru. Mae cofrestru’n golygu bod â Chyfrif Firefox, felly os oes gennych chi un eisoes gallwch ddefnyddio hwnnw, os nad cofrestru am un o’r newydd. Mae’n werth cofrestru gan ei fod yn codi maint y ffeiliau i 2.5Gb a’r gallu i reoli ffeiliau wedi eu llwytho i fyny o ddyfeisiau eraill a newid cyfnod dod i ben. Does dim rhaid talu am gyfrif.
Gallwch lusgo a gollwng ffeiliau i’w rannu gydag eraill ar wefan Firefox Send neu ddefnyddio’r botwm llwytho i fyny i ddefnyddio’r chwilotwr ffeiliau i ddewis eich ffeiliau.
Mae’r holl ffeiliau gafodd eu dewis yn cael eu dangos gyda’u henwau a’u maint. Bydd Firefox Send yn dangos cyfanswm maint y ffeiliau gyda’r dewis i ychwanegu rhagor o ffeiliau i’r ciw.
Bydd ffeiliau wedi eu llwytho i fyny’n dod i ben yn awtomatig ymhen amser penodol neu nifer o weithiau wedi eu llwytho i lawr. Bydd yn eu dileu ar ôl eu llwytho i lawr unwaith neu o fewn 24 awr fel rheol. Mae modd codi’r nifer o lwythi i 100 neu 7 diwrnod. Gall llwythi i lawr ddod i ben ymhen 5 munud o’u llwytho i fyny.
Mae Firefox Send yn defnyddio amgryptiad i ddiogelu ffeiliau ac mae defnyddio cyfrinair yn ychwanegu at y diogelwch.
Beth am roi cynnig arno?
Aled Powell 11:07 PM ar 31 Mawrth 2019 Dolen Barhaol
Da iawn. Dylid rhannu newyddion am hyn, yn enwedig gyda sefydliadau sydd fod i’n gwasanaethu yn Gymraeg.
Bu’n rhaid i mi drosglwyddo dipyn o ffeiliau i rywun yng Nghyngor Wrecsam yn ddiweddar a gofynnwyd i mi ddefnyddio WeTransfer. Edrychais yn yr opsiynau ond am nad yw’r Gymraeg yn opsiwn dewisais iaith arall a bu’n rhaid i swyddog y Cyngor gwneud synnwyr o’r broses yn Swedeg!
Aled Powell 10:41 AM ar 2 Ebrill 2019 Dolen Barhaol
Newydd ddefnyddio hwn. Dw i’n synnu nad oes opsiynau iaith i’w gweld yn Firefox Send. Mae’n ymddangos yn Gymraeg dim ond os ydy defnyddiwr wedi gosod y Gymraeg yn newisiadau ei borwr fel dewis iaith gyntaf cynnwys ar y we. Mae hyn yn handi i’r rhai ohonom sy’n gwybod ac yn gwneud felly, ond i’r mwyafrif mae’n golygu y bydd Send yn ymddangos yn Saesneg heb fod dewis Cymraeg – nac unrhyw iaith arall – ar gael.
Dw i’n teimlo bod yr arfer hyn yn dod yn fwy cyffredin ac mae’n fater i’w drafod yn ehangach, dw i’n credu.
Rhoslyn Prys 11:04 AM ar 2 Ebrill 2019 Dolen Barhaol
Diolch Aled am y sylwadau hyn.
Mae’r ffaith nad oes dewislen iaith ar Firefox Send, a’i fod yn dilyn iaith y porwr, yn rhywbeth dwi eisoes wedi codi gyda Mozilla fel ymarfer gwael, felly dwi’n falch dy fod wedi codi hwn.
Beth yw barn pobl eraill i mi gael trafod adborth defnyddwyr gyda’r criw lleoleiddio ym Mozilla?
Diolch 🙂