Linux Mint 19.3

Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 19.3 “Tricia” ym mis Rhagfyr. Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru o 19.2. Fersiwn Cinnamon sy’n cynnwys… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.3

WordPress 5.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress, fersiwn 5.3 wedi ei ryddhau ac yn ymddangos ar fyrddau gwaith gweinyddwyr WordPress ar draws y byd. Dyma’r cyflwyniad: Mae 5.3 yn ehangu ac yn mireinio’r golygydd bloc a gyflwynwyd yn WordPress 5.0 gyda blociau newydd, rhyngweithio mwy greddfol, a gwell hygyrchedd. Mae nodweddion newydd yn y golygydd yn cynyddu… Parhau i ddarllen WordPress 5.3

@techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

Neithiwr yn seremoni gwobrwyo’r Royal College of Speech and Language Therapists derbyniodd Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wobr Giving Voice Award am eu gwaith yn datblygu Lleisiwr, project i greu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.… Parhau i ddarllen @techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

LibreOffice 6.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o LibreOffice wedi ei ryddhau gydag amryw o nodweddion newydd, y pennaf yw gwelliannau i’r Bar Adnoddau newydd sy’n ehangu’r swyddogaethau sydd ar gael ynddo. Dyma restr o’r nodweddion i gyd: Nodweddion Newydd i’r Bar Adnoddau! Mae rhyngwyneb defnyddiwr y Bar Adnoddau gyflwynwyd yn LibreOffice 6.2 wedi ei ddatblygu ymhellach ar gyfer… Parhau i ddarllen LibreOffice 6.3

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Common Voice Cymraeg yn yr Eisteddfod

Bydd gan ymgyrch Common Voice bresenoldeb ar faes yr Eisteddfod eleni. Dewch draw i stondin Common Voice Cymraeg sydd o dan ofal Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr @techiaith yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dewch i glywed am y datblygiad diweddaraf ym myd technoleg llais yn y Gymraeg! voice.mozilla.org/cy

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Linux Mint 19.2

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae Linux Mint 19.1 “Tina” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.2

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Mentrau Iaith yn gosod targed o 22 awr i helpu ymgyrch Common Voice Cymraeg

Mae Common Voice Cymraeg yn gofyn i siaradwyr y Gymraeg ym mhob cwr o’r byd i chwarae eu rhan wrth ddiogelu dyfodol digidol yr iaith Gymraeg trwy recordio a dilysu lleisiau. Mozilla, y cwmni meddalwedd, sy’n arwain ar y prosiect hwn mewn ymdrech i hybu gwasanaethau digidol yn yr iaith Gymraeg. Rhagor…  

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol