Dyma lluniau o ffatri Raspberry Pi yn y ffatrïoedd Sony ym Mhencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr – i’r rai sy’n hoffi’r math yna o beth.
Tag: Raspberry Pi
Datblygu radio personol, osgoi'r Archers a mwy
Dyma cofnod blog difyr am ddefnydd o Raspberry Pi a chod agored i hacio meddalwedd/caledwedd radio personol at eu gilydd. Maent yn datblygu botwn i osgoi’r Archers ond mae modd gwneud newidiadau i’r prototeip. Felly os oes elfen fach o BBC Radio Cymru sydd ddim at eich dant, dyma’r dyfais radio i chi. 🙂
Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru
Mae’r sefydliad nid-ar-elw tu ôl Raspberry Pi wedi datgan heddiw bod nhw wedi comisiynu’r ffatri Sony ym Mhencoed i gynhyrchu cyfrifiaduron Raspberry Pi yna. Mae’r stori ar BBC Newyddion a Wales Online hefyd. Mae’n siwr fydd mwy o lwyddiant na chyfrifiaduron eraill y gynhyrchwyd yng Nghymru fel y Sam Coupé a’r Dragon 32. Mae sawl… Parhau i ddarllen Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru
Cipolwg cyffrous ar Raspberry Pi
Dw i wedi bod yn aros yn y ciw yn RS Components am fy Raspberry Pi. Diolch i Rhys W a’i Raspberry Pi am fy nghipolwg cyntaf uchod. Raspberry Pi – rhagor o wybodaeth Diolch i bawb am ddod i Hacio’r Iaith Bach yng Nghaerdydd neithiwr i drafod newyddion lleol, blogiau a phethau eraill.