Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw!

Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am… Parhau i ddarllen Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw!

Haclediad #5 — Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011

O’r diwedd, mae Hacio’r Iaith 2011 wedi dod a mynd, a’r oll sydd ar ôl i chi yw’r haclediad byw! Wedi ei recordio cyn lansiad yr Umap Cymraeg gwych (cy.umap.eu), mae ‘na dal ddigon o drafodaeth yn y rhifyn byw arbennig hwn. Mae’r haclediad yn trafod ychydig o newyddion y dydd, a fe gafon ni… Parhau i ddarllen Haclediad #5 — Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011

Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig!

Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym (@meigwilym), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned (@llef), Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a… Parhau i ddarllen Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig!

Haclediad Y Nadolig

Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3! Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd. Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad… Parhau i ddarllen Haclediad Y Nadolig

Croeso i’r Haclediad

“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn,… Parhau i ddarllen Croeso i’r Haclediad

Sgwrs am ffeindio cerddoriaeth Cymraeg arlein gyda @amrwd

Mae Jazzfync a Gemau Fideo yn podlediad wych. Ro’n i’n mynd i bostio hwn (cyn iddyn nhw sôn am Y Twll) – sgwrs am ffeindio cerddoriaeth a bandiau newydd trwy Maes-E, Myspace a Facebook. Gwranda – rhaglen 6 ar http://podcast.amrwd.com (sgwrs yn dechrau 34:00, tan 43:00) blog y podlediad http://jffgf.tumblr.com

One, two…One, two…testing…Y Darllediad Byw!

Rhwng 12-1pm ar ddydd Sadwrn, byddwn ni’n darlledu’n fyw o Hacio’r Iaith. Criw podlediad Metastwnsh fydd yno, yn mynd trwy eu petha, gan edrych ar bynciau llosg technolegol y dydd. Dwi’n credu mod i’n iawn i ddweud y bydd Bryn, Iestyn, Sioned, a Rhys yn cynrychioli. Gair. Mae’r ffrydio yn dod i chi drwy garedigrwydd… Parhau i ddarllen One, two…One, two…testing…Y Darllediad Byw!