Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C

Anrheg Nadolig cynnar i chi Hacledffans, dyma ein hasesiad ni o adroddiad Panel Digidol S4C – Cofleidio’r Dyfodol. Mae Rhodri ap Dyfrig (@nwdls), aelod o’r panel yn mynd a ni trwy’r adroddiad, a be mae’n meddwl i ni ddefnyddwyr gwasanaethau S4C. Bydd Iestyn yn rhoi’r adroddiad i’r Iest Test, gwrandewch i glywed y ddyfarniad. Nadolig… Parhau i ddarllen Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C

Haclediad #15 – Yr un Gaeafol

Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a… Parhau i ddarllen Haclediad #15 – Yr un Gaeafol

Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn… Parhau i ddarllen Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Haclediad #13 – Tân ac Afalau

Gyda Apple yn dod a’r iPhone 4S i’r byd ac Amazon yn cynnau’r Kindle Fire, mae’n frwydr y ffanbois yn rhifyn hwn yr Haclediad. Yn symud ‘mlaen o’r Kindle Fire, byddwn yn trafod sefyllfa siomedig e-lyfrau Cymru, awgrymiadau fforwm cyfryngau newydd S4C a’r newyddion gwych am Hacio’r Iaith 2012. Anghofion ni sôn am Facebook newydd,… Parhau i ddarllen Haclediad #13 – Tân ac Afalau

Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac… Parhau i ddarllen Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a gweledigaeth y buddsoddwr… Parhau i ddarllen Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

Haclediad #9 – Yr un [redacted]

Megis ffreis Ffrengig a Big Mac dyma Haclediad #9 mewn amser record o gyflym! Croesawn y polymath cyfryngol Cymraeg, Rhodri Ap Dyfrig (@nwdls) i’r Haclediad am y rhifyn hwn; a byddwn yn trafod dyfodiad iPhone app S4C, sïon yr iPhone 5, e-ddarllenwyr ac e-lyfrau Cymraeg a datblygiadau’r Windows Phone. Os nad yw Twitter wedi rhoi’n… Parhau i ddarllen Haclediad #9 – Yr un [redacted]

Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8!

Mae hwn wedi bod yn bragu gyda ni ers tipyn, ond yn y rhifyn blasus hwn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y stori (neu beidio) o dracio lleoliad gan Apple, sut wnaeth y briodas Frenhinol styrbio trydar y genedl a phroblemau dybryd y Rhwydwaith PlayStation. I ddod a ni nôl i dir sanctaidd… Parhau i ddarllen Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8!

Haclediad #7 – Yr un sy’n Magnifico

Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, Bryn, Iestyn a Sioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C. ‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r iPad2 wedi cyrraedd, ydi o werth y ciwio? Ac yna mae dyfodiad… Parhau i ddarllen Haclediad #7 – Yr un sy’n Magnifico