Haclediad #15 – Yr un Gaeafol

Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a… Parhau i ddarllen Haclediad #15 – Yr un Gaeafol

Hacio’r Iaith 2012: 2 fis i fynd…35 wedi cofrestru.

Manylion ar y Wici: http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_Ionawr_2012#Cofrestru Os ydych chi’n dod, ac yn meddwl cyflwyno am rhywbeth, yna fase’n help mawr petasech chi’n gallu sgwennu pwt ar y Wici yn dweud yn fras eich syniad. Am nad oes na raglen ffurfiol o flaen llaw, da ni’n dibynnu ar be ma bobol yn gweld ar y Wiki (a’r… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2012: 2 fis i fynd…35 wedi cofrestru.

Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn… Parhau i ddarllen Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

Hacio’r Iaith 2011 a 2012: edrych nôl ac edrych mlaen

Mae trefniadau wedi dechrau symud yn eitha cyflym rwan ar gyfer y digwyddiad Hacio’r Iaith 2012 sydd rwan yn ei drydedd flwyddyn. Mae na lwyth o sdwff wedi digwydd ers y cynta, a chyn i ni fynd bendramwnagl mewn i’r un nesa (os am hynny ewch i’r Wici), efallai ei bod hi’n werth taro cip… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2011 a 2012: edrych nôl ac edrych mlaen

Haclediad #13 – Tân ac Afalau

Gyda Apple yn dod a’r iPhone 4S i’r byd ac Amazon yn cynnau’r Kindle Fire, mae’n frwydr y ffanbois yn rhifyn hwn yr Haclediad. Yn symud ‘mlaen o’r Kindle Fire, byddwn yn trafod sefyllfa siomedig e-lyfrau Cymru, awgrymiadau fforwm cyfryngau newydd S4C a’r newyddion gwych am Hacio’r Iaith 2012. Anghofion ni sôn am Facebook newydd,… Parhau i ddarllen Haclediad #13 – Tân ac Afalau

Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac… Parhau i ddarllen Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a gweledigaeth y buddsoddwr… Parhau i ddarllen Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

‘Chydig ar Gof a Chadw – addasiadau barddoniaeth Gwilym Deudraeth

Rhai o’r canlyniadau ein sesiwn prynhawn ‘ma cyflwyniad http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2011#Chydig_ar_gof_a_chadw http://hedyn.net/wici/Blas_o_stwff_gan_Gwilym_Deudraeth Cerdd & fideo! cerdd gwreiddiol gan Owain Hughes Fideo fideo Ghandi gan Gareth Morlais “straeon digidol wedi eu gwneud gyda llais + sketches wedi’u sganio – golygu’r fideo arlein” angharad a menna: http://www.youtube.com/watch?v=aWoAUro74Xo llais Mal Pate: http://www.youtube.com/watch?v=cAQSF58yrNw Lluniau poster gan Iestyn http://www.flickr.com/photos/sbellcheck/5397825455/sizes/l/in/photostream/ lluniau gan Llinos… Parhau i ddarllen ‘Chydig ar Gof a Chadw – addasiadau barddoniaeth Gwilym Deudraeth