Dim ffrwd fideo byw hyd yma – mae’n edr…

Dim ffrwd fideo byw hyd yma – mae’n edrych fel bod y cysylltiad wi-fi yn ddigonol ond dwi’n cael feed brwnt iawn o’r ddesg sain. Wnai edrych sut i wella pethau yn y toriad nesaf a falle darlledu wedyn.

‘Chydig ar Gof a Chadw (sesiwn Hacio’r Iaith 2011)

Dw i’n rhedeg sesiwn o’r enw ‘Chydig ar Gof a Chadw yn Hacio’r Iaith 2011. Yn hytrach na sgwennu gormod fan hyn, fi di rhoi dolenni. Plis cer i’r 2 diweddariad ar y wici: crynodeb http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_-_Ionawr_2011#Chydig_ar_gof_a_chadw blas o stwff gan Gwilym Deudraeth http://hedyn.net/wici/Blas_o_stwff_gan_Gwilym_Deudraeth hefyd, y cofnod o 1/1/11 gyda’r hedyn o’r syniad Llyfrau yn y… Parhau i ddarllen ‘Chydig ar Gof a Chadw (sesiwn Hacio’r Iaith 2011)

Hacio’r Iaith 2011: ydych chi am ddod? sut allwch chi helpu?

Bydd cynhadledd agored Hacio’r Iaith 2011 yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn y 29 Ionawr, yn Aberystwyth. Thema’r gynhadledd fel y llynedd yw technoleg, rhyngrwyd a iaith. Mae’r lleoliad, offer ac ati wedi ei gadarnhau felly yr unig beth sydd ar ôl rwan ydi i chi gofrestru a meddwl am rywbeth yr hoffech chi… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2011: ydych chi am ddod? sut allwch chi helpu?

Croeso i’r Haclediad

“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn,… Parhau i ddarllen Croeso i’r Haclediad

Hacio’r Iaith 2

Mae hi’n teimlo fel amser maith ers cynhaliwyd y digwyddiad Hacio’r Iaith 1af rwan, felly mae’n amser dechrau bwrw iddi i drefnu’r ail un. Dwi’n credu bod yr ymateb wedi bod cystal i’r un gyntaf y bydd yr ail hyd yn oed yn well. O sgwrs ddechreuol gyda ambell berson y consensws ydi y dylen… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2