Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac ymadawiad HP o’r farchnad cyfrifiaduron cartref.

Be’ mae hyn i gyd yn meddwl i ni fel defnyddwyr, ydan ni wirioneddol mewn byd ‘post-pc’? Da ni’n sicr mewn byd post-papur serch hynny, ond ydi Cymru yn syrthio ymhellach tu ôl iddi, gyda phroblemau Y Lolfa yn cyhoeddi e-lyfrau, a’r prinder o aps i Blant Cymru? Gewch chi glywed y cyfan efo ni yma ar Haclediad #12!

Mwynhewch!
Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx)

3 sylw

  1. Post-PC efallai ond gobeithio fyddan ni ddim yn symud i’r oes post-rhyddid.

    Does dim diddordeb gyda fi yn unrhyw ‘ecosystem’ dan gwmni – Apple, Facebook, neb.

    Dw i wir yn meddwl bod mwy o arloesedd gyda safonai agored yn hytrach na unrhyw eco$y$tem.

    Sgwrs dda, diolch!

  2. Haclediad controfyrsial!

    Ma na un ffordd hawdd o gael Cymdeithas yr Iaith i ddechrau ymgyrch i gael y Gymraeg ar Kindles, apps ac ym mhob parth digidol…ymaelodi, cymryd rhan a dylanwadu. Cymdeithas o bobol ydi hi nid ymgorfforiad o Ffred Ffransis (JÔC, Ffred!). Wir wan, dwi’n siwr fasa nhw’n falch iawn o gael arbenigedd y tri ohonoch chi, neu gefnogi unrhyw ymgyrch da chi isio cychwyn drwy Haciaith. Un ffordd sydd na o newid petha, trio newid o dy hun.

    A “teledu ddim yn bwysig rhagor”? Na’i roi PFFFT masif i hynna! Isio bach o reality check ar y tech-iwtopiaeth yna dwi’n meddwl. Ers pryd mae un cyfrwng erioed wedi disodli’r llall? Arian hysbysbu teledu neu’r drwydded deledu sydd yn gyrru nifer fawr o fentrau gwe ym Mhrydain a’n cynhyrchu llawer o’r arloesedd gorau. Ma teledu, radio, a mastiau darlledu, am fod efo ni am amser hir i ddod.

    O ran e-lyfrau Cymraeg: mi faswn i’n rhoi’r bai yn sgwâr ar ysgwyddau’r Cyngor Llyfrau Cymraeg. Nhw sydd yn ariannu cyhoeddi yng Nghymru, nhw sydd yn gallu gosod yr agenda, nhw sydd yn gallu gwneud yn siwr bod e-lyfrau allan na pan fo’r farchnad yn datblygu a lle nad oes modd gwneud elw ar werthiant e-lyfr. Lle maen *nhw*? Mae cyhoeddwyr yn gorfod ceisio ffeindio ffordd eu hunain o ddatblygu a chwarae teg i’r Lolfa am drio faswn i’n deud. Oes disgwyl i un cyhoeddwr fentro, a gwneud colled ar e-lyfrau, heb gefenogaeth y corff sydd i fod i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi.

    Joio’r un yma LOT bois. Ella ddylia ni drio gwylltio Bryn ym amlach 😉

Mae'r sylwadau wedi cau.