Haclediad 87: Mr Mistoffe-plîs stopia

 Y tro yma ar y Jellicle podlediad sy’n 2 awr o dy amser gei fi fyth nôl… Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER… Parhau i ddarllen Haclediad 87: Mr Mistoffe-plîs stopia

Haclediad 86: Crims Hems-worth it?

 Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad – sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma. Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs,… Parhau i ddarllen Haclediad 86: Crims Hems-worth it?

Peintio’r byd technoleg yn Gymraeg: gwahoddiad wrth Gymdeithas yr Iaith

Dyma wahoddiad i chi fynychu trafodaeth ymarferol ar y Gymraeg yn y byd(oedd) technoleg: newid polisïau’r corfforaethau mawrion rhyngwynebau Cymraeg meddalwedd Gymraeg platfformau apiau a mwy Y nod yw i gytuno ar weithredoedd ymgyrchu penodol tuag at gael mwy o Gymraeg yn y technolegau rydych chi’n defnyddio bob dydd. Mae croeso cynnes i bawb gymryd… Parhau i ddarllen Peintio’r byd technoleg yn Gymraeg: gwahoddiad wrth Gymdeithas yr Iaith

Swydd Peiriannydd Meddalwedd, Uned Technolegau Iaith

Unrhyw un awydd ymuno gyda’r tîm technolegau iaith ym Mhrifysgol Bangor? Mae ganddyn nhw swydd peiriannydd meddalwedd ar brojectau technoleg iaith a lleferydd yn cael ei hysbysebu ar y funud – gw: https://jobs.bangor.ac.uk/details.php.cy?id=QR0FK026203F3VBQB7V68LOPI&nPostingID=4871&nPostingTargetID=5225&mask=extcy&lg=CY  

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad 84: Codiad Ymyl Heddychlon

Ar bennod ddiwedara’r Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yma i ddelio efo’ch holl issues gofid-19 – ac i wneud chi chwerthin a glafoerio (ond ddim am yr un peth). Ni’n agor drysau’r clwb Ffilm Di Ddim gyda Pacific Rim: Uprising, yn canu moliant yr iPad newydd ac yn taflu awgrymiadau aps allan fel dwnim… Parhau i ddarllen Haclediad 84: Codiad Ymyl Heddychlon

Haclediad 83: Gin & Aptonic

Ar bennod ddiweddara’r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru. Mae’r Afterparty yn llawn gorfoledd gwledd o ffilms Ghibli ar Netflix, piciad mewn ar Picard, pwt am Llyfr Glas Nebo LIVE! plus Bryn a’r Birds of Prey –… Parhau i ddarllen Haclediad 83: Gin & Aptonic

Thunderbird 68 – beth sy’n newydd

Mae Thunderbird 68.5.0 wedi ei ryddhau gyda nifer o nodweddion newydd a diweddariadau diogelwch. Mae’r rhaglen yn cynnig nodwedd rheoli e-byst, calendr a rheolwr tasgau all-lein. Mae modd trefnu iddo reoli nifer o gyfrifon e-byst ar-lein er mwyn eu diogelu all-lein. Mae’r Thunderbird newydd eisoes ar gael drwy’r system diweddaru a hefyd drwy wefan Cymraeg… Parhau i ddarllen Thunderbird 68 – beth sy’n newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol