Firefox 73 – beth sy’n newydd

Mae Firefox wedi ryddhau fersiwn newydd o’u porwr gwe poblogaidd. Mae’r newidiadau yn fersiwn 73.0 yn llai nag arfer. Maen nhw’n cynnwys cywiriadau diogelwch yn ogystal â dwy brif nodwedd newydd.

Bydd yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig neu mae ar gael o wefan Cymraeg Firefox yn: https://www.mozilla.org/cy/firefox/new/


1. Rhagosod Chwyddo Tudalen Cyffredinol

Gall defnyddwyr Firefox newid lefel chwyddo gwefannau unigol i wella hygyrchedd. Hyd yn hyn, dim ond ar gyfer gwefannau unigol y cefnogwyd hyn.

Er bod hynny’n darparu hyblygrwydd, roedd yn gwneud y broses yn feichus pe bai angen newid chwyddo ar y mwyafrif o wefannau yn Firefox.

Gyda Firefox 73.0, mae bellach yn bosibl newid y chwyddo rhagosodedig yn y dewisiadau. Dyma sut mae gwneud hynny:

1. Agorwch Offer > Dewisiadau > Cyffredinol.
2. Yn yr adran Iaith a Gwedd  mae’r pennawd Chwyddo.
3. Gallwch newid y chwyddo rhagosodedig o 100% i werth rhwng 30% a 300% gan ddefnyddio’r gosodiad newydd. Yn ogystal, gallwch dicio’r blwch “Chwyddo testun yn unig” i chwyddo dim ond y testun a chadw pob elfen dudalen arall ar y lefel rhagosodedig.

Gallwch ailosod y lefel chwyddo unrhyw bryd trwy newid gwerth y chwyddo rhagnodedig.


2. Gwelliannau i’r Modd Cyferbyniad Uchel

Mae Modd Cyferbyniad Uchel yn nodwedd hygyrchedd system weithredu Windows i wella darllenadwyedd. Arferai Firefox analluogi delweddau cefndir yn y modd hwnnw cyn rhyddhau Firefox 73.0 er mwyn gwella darllenadwyedd.

O Firefox 73.0 ymlaen, yn lle hynny bydd Firefox yn gosod bloc lliw o amgylch testun mewn Modd Cyferbyniad Uchel i wella darllenadwyedd testun heb dynnu’r ddelwedd gefndir yn llwyr o’r dudalen we.


Newidiadau eraill

  • Gall defnyddwyr Firefox gynyddu neu leihau cyflymder chwarae sain; mae ansawdd y rhain wedi gwella yn y fersiwn newydd.
  • Dim ond os cafodd maes yn y ffurflen fewngofnodi ei addasu y bydd Firefox yn annog cadw mewngofnodiad.
  • Cyflwyno WebRender i liniaduron sydd â chardiau graffeg Nvidia ac sy’n defnyddio gyrwyr sy’n fwy na 432.00 a meintiau sgrin sy’n llai na 1920×1200.

Firefox ar gyfer Android

Mae Mozilla yn gweithio ar borwr Android newydd o’r enw Firefox Preview ar hyn o bryd. Maen nhw’n bwriadu symud defnyddwyr y Firefox cyfredol ar gyfer Android i Firefox Preview yn 2020.