Common Voice Cymraeg – brawddegau newydd!

Mae bron i 3500 o frawddegau newydd difyr wedi eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg yn ddiweddar ac yn chwilio am unigolion i’w recordio!

Diolch am eich cefnogaeth i Common Voice yn y gorffennol. Byddwn yn ddiolchgar petai modd i chi sôn wrth eich ffrindiau, teulu, cydweithwyr am y datblygiad newydd yma a’r cyfle i barhau i gyfrannu.

Bydd brawddegau newydd o bob math yn ymddangos ar wefan Common Voice Cymraeg o bryd i’w gilydd a’n bwriad yw parhau i ddatblygu’r maes nes bod gennym yr adnoddau angenrheidiol i ddarparu technoleg llais ymarferol yn Gymraeg.

Mae adnoddau i gefnogi Common Voice Cymraeg ar gael yma ar wefan Meddal.com.

Dyfal donc…