Haclediad 64: May The Port Be With You

Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn… Parhau i ddarllen Haclediad 64: May The Port Be With You

Haclediad 63: Drive By Sextoy Hack-lediad

Ar yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C – llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma.… Parhau i ddarllen Haclediad 63: Drive By Sextoy Hack-lediad

Cynnydd sylweddol yn y defnydd o WordPress yn Gymraeg!

Gwelwyd cynnydd o 81% yn y pecyn ryddhau a 219% yn y pecyn iaith ers WordPress 4.6, Tachwedd 2016. Mae oes 4.8 yn dod i ben rhywbryd wythnos nesaf, felly dyma’r ffigyrau’r pecynnau Cymraeg diweddaraf. Dyma’r ffigyrau yn ôl cyfrif WordPress o’r ‘cyfanswm y nifer o enghreifftiau o WordPress 4.8 — sydd wedi eu llwytho… Parhau i ddarllen Cynnydd sylweddol yn y defnydd o WordPress yn Gymraeg!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

NODYN CALENDR: Hacio’r Iaith *27 Ionawr 2018*

Dalier sylw!  Ar wahoddiad S4C bydd Hacio’r Iaith 2018 yn cael ei gynnal yn Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Grangetown, Caerdydd. Felly rhowch ddydd Sadwrn y 27 Ionawr yn eich dyddiaduron, bwciwch lety / ffoniwch ffrind sydd efo soffa a dechreuwch feddwl am rywbeth i’w gyflwyno / rhannu / esbonio / rhoi demo ohono ar y… Parhau i ddarllen NODYN CALENDR: Hacio’r Iaith *27 Ionawr 2018*

Yn cyflwyno… Diwrnod Ada Lovelace 2017 #ALD17

Dydd Mawrth 10fed Hydref fydd Diwrnod Ada Lovelace 2017, diwrnod o flogio a thrydar er mwyn tynnu sylw at lwyddiannau menywod mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Am ba fenyw ydych chi am flogio neu drydar? Fe fydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gwaith celf torfol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae hyn yn ogystal â llwythi… Parhau i ddarllen Yn cyflwyno… Diwrnod Ada Lovelace 2017 #ALD17

Haclediad 61: Social Justice Warriars

Mae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz.… Parhau i ddarllen Haclediad 61: Social Justice Warriars

Hoff adnodau digidol tiwtoriaid #DysguCymraeg2017

Mewn gweithdy yng Nghynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion https://dysgucymraeg.cymru/ yng Nghaerdydd yn yr haf, dyma oedd dewisiadau technoleg fwyaf handi’r tiwtoriaid. Mae’r rhif ar ddiwedd pob lein yn dangos faint o bleidleisiau (dotiau coch) cafodd pob adnodd: Duolingo – ap/gwefan – 33 Geiriaduron – gwefan – ap – 30 SSIW – ap/gwefan – 30 Quizlet… Parhau i ddarllen Hoff adnodau digidol tiwtoriaid #DysguCymraeg2017

Testunlyfrau agored a’r cynffon hir

Tro cyntaf i mi gyfrannu: gobeithio bod y pwnc yn berthnasol. Cefais fy ysbrydoli gan y cofnod blog yma gan Robin DeRosa sy’n disgrio’r broses o greu testunlyfr ar gyfer cwrs llenyddiaeth yr oedd yn ei ddysgu. Efallai bod yma syniadau sy’n berthnasol i’r cyd-destun Cymraeg, felly meddwl baswn i’n ei rannu. Mae enghreifftiau arbennig… Parhau i ddarllen Testunlyfrau agored a’r cynffon hir