Cynnydd sylweddol yn y defnydd o WordPress yn Gymraeg!

Gwelwyd cynnydd o 81% yn y pecyn ryddhau a 219% yn y pecyn iaith ers WordPress 4.6, Tachwedd 2016.

Mae oes 4.8 yn dod i ben rhywbryd wythnos nesaf, felly dyma’r ffigyrau’r pecynnau Cymraeg diweddaraf.

Dyma’r ffigyrau yn ôl cyfrif WordPress o’r ‘cyfanswm y nifer o enghreifftiau o WordPress 4.8 — sydd wedi eu llwytho i lawr yn ôl locale’:

Pecyn Ryddhau: 973 Pecyn Iaith: 13,351.

Cynnydd o 81% a 219% ers 4.6.

Ffigyrau blaenorol

4.6    521 a 4,191

4.5    446 a 3,356

4.4    250 a 3,369

Cyfanswm byd-eang WordPress 4.8 yw 62,967 a 135,229,726

Paratowch ar gyfer cyffro lansio WordPress 4.9!