Haclediad 64: May The Port Be With You

Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018!

O.N. Danfonwch yr isod i mewn atom:

  • datblygiad tech gorau i ti ffendio leni
  • hoff app
  • teclyn alli di ddim byw hebddo
  • peth brawychus y flwyddyn
  • peth positif y flwyddyn
  • Cyfres/ffilm gorau
  • Gwobrwyo twat y flwyddyn
  • Gwobrwyo arwres/arwr/arwyr y flwyddyn

Dolenni

Monzo – It’s time for a new kind of bank
Microsoft HoloLens | The leader in mixed reality technology
iPhone SE – Apple (UK)
Procreate for iPad
Instagram
Moment – Automatically track your and your family’s daily iPhone and iPad use
Nintendo Switch | Nintendo
Wii | Nintendo
iPad Pro – Apple (UK)
Swatch®
Tumblr
‎Star Wars: The Last Jedi (2017)
Gwobr BAFTA i Deian a Loli