Neges i bawb sy’n dod…

Yn gyntaf, diolch am gofrestru i ddod i’r digwyddiad. Ma’n wych bod ganddon ni dros 30 o bobol yn dod (a ma na fwy sydd heb gofrestru ar y wiki eto). Beth bynnag ddigwyddith mi fydd hi’n ffantastic cael cyfarfod a sgwrsio, ond dwi jest isio cyfeirio chi at y wiki eto er mwyn eich atgoffa chi am beth fydd trefn y diwrnod.

http://hedyn.net/hacio_r_iaith#rhaglen_y_dydd

Yn gyntaf, fel ma’n siwr bod rhai ohonoch ci’n gwybod mae’r digwyddiad ar ffurf unconference (anghynhadledd?!), sef cynhadledd agored, felly rydyn ni’n annog pawb sy’n dod i gymryd slot 20-30 munud i un ai siarad am eu gwaith, cynnal gweithdy bach, cael sesiwn syniadau, neu jest rwdlan am eu hoff wefan nhw. Gallwch chi wneud unrhywbeth rili. Mae rhai o griw Metastwnsh am wneud podlediad byw o flaen cynulleidfa, gallwch chithau wneud panel hefyd os da chi isio. Gallwch chi baratoi o flaen llaw neu gallwch chi jest wingio hi – fyny i chi!

Mae’r manylion i gyd ar y link uchod neu mae Rhys Wynne yn rhoi cyflwyniad defnyddiol ar ei flog.

Bydd wifi, taflunydd ac ati ar gael yn y ddwy stafell ond os da chi angen unrhywbeth gwahanol i hynny yna gadwch i ni wybod.

Fel yr arfer gyda chynhadleddau agored bydd trefn y dydd yn cael ei benderfynu yn y bore (rhwng 10 a 10.30), felly os ydach chi isio slot benodol yna plis dowch ar amser! Alla i ddim pwysleisio hyn ddigon. Mi fydd yr holl beth bownd o fod chydig yn chwit chwat ar adegau, ond os oes digon o bobol yn cyflwyno yna bydd pethau’n mynd yn iawn. Y gwaetha all ddigwydd ydi bod ni gyd yn troi fyny a does neb isio cyflwyno, jest gwrando! Ond dwi’m yn meddwl gwnaiff hynny ddigwydd a bydd digon o bethau difyr i’w gweld a chlywed.

Diolch i’n noddwyr bydd cinio a diodydd ar gael plus ambell i beth arall gobeithio.

Yr unig beth sydd angen dod efo chi ydi gliniadur, eich hun a llond trol o frwdfrydedd. Hawdd!

Plis jest ebostiwch os oes ganddoch chi gwestiwn, neu ei roi ar y wici.

Ac yn bwysicaf oll – os da chi efo unrhyw bresenoldeb ar-lein – blogiwch, twitrwch, Ffêsbwciwch amdano. Da ni isio i gymaint o bobol ag sy’n bosib i gael gwybod.

Splendigedig! Edrych mlaen i’ch gweld chi gyd.

Rhods