Teithio i Aberystwyth: Rhannu Lifftiau

Ydych chi’n dod i Hacio’r Iaith? Wel yn gynta, rhowch eich enw lawr ar y wiki er mwyn cofrestru.

Yn ail, ydych chi’n gyrru?

Da ni gyd isio trio arbed costau felly bydde’n grêt pe gallech chi gynnig lifft i rywun sy’n dod o’ch cyffiniau chi.

Da ni wedi creu adran fach ar y wiki er mwyn nodi bod ganddoch chi gar ac o le da chi’n teithio. Dwi’n siwr y cewch chi bobol i fynd splits ar y petrol.

Gwd thing.