Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress, fersiwn 5.3 wedi ei ryddhau ac yn ymddangos ar fyrddau gwaith gweinyddwyr WordPress ar draws y byd. Dyma’r cyflwyniad: Mae 5.3 yn ehangu ac yn mireinio’r golygydd bloc a gyflwynwyd yn WordPress 5.0 gyda blociau newydd, rhyngweithio mwy greddfol, a gwell hygyrchedd. Mae nodweddion newydd yn y golygydd yn cynyddu… Parhau i ddarllen WordPress 5.3
Categori: newyddion
Common Voice Cymraeg – brawddegau newydd!
Mae bron i 3500 o frawddegau newydd difyr wedi eu hychwanegu i Common Voice Cymraeg yn ddiweddar ac yn chwilio am unigolion i’w recordio! Diolch am eich cefnogaeth i Common Voice yn y gorffennol. Byddwn yn ddiolchgar petai modd i chi sôn wrth eich ffrindiau, teulu, cydweithwyr am y datblygiad newydd yma a’r cyfle i… Parhau i ddarllen Common Voice Cymraeg – brawddegau newydd!
@techiaith yn ennill gwobr RCSLT!
Neithiwr yn seremoni gwobrwyo’r Royal College of Speech and Language Therapists derbyniodd Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wobr Giving Voice Award am eu gwaith yn datblygu Lleisiwr, project i greu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.… Parhau i ddarllen @techiaith yn ennill gwobr RCSLT!
Dathlu Blwyddyn o Common Voice Cymraeg
Mae’n flwyddyn nawr ers i Mozilla ryddhau Common Voice ar gyfer y Gymraeg, gw. Parlez-vous Deutsch? Rhagor o Leisiau i Common Voice Mae gennym darged cychwynnol o 100 awr ac rydym wedi cyrraedd 42 awr wedi’u dilysu a 48 awr wedi eu recordio, felly, cynnydd da, ond tipyn o ffordd i fynd! Diolchiadau felly i bawb… Parhau i ddarllen Dathlu Blwyddyn o Common Voice Cymraeg
Firefox Monitor
Mae gwasanaeth Firefox Monitor yn cynnig cyfle i weld os yw eich cyfrif(on) e-bost wedi cael eu torri a’r posibilrwydd fod eich manylion personol wedi eu cipio. Mae’r gwasanaeth, sy’n seiliedig ar Have I been pwnd, ar gael am y tro cyntaf yn Gymraeg. Bydd angen i chi sicrhau fod y Gymraeg yn uchaf ar… Parhau i ddarllen Firefox Monitor
Diweddariad Mis Hydref Common Voice Cymraeg
Newyddion am ddatblygiadau Common Voice Cymraeg i’w gweld ar wefan Meddal.com. Apêl arbennig i Hacwyr Iaith gyfrannu! Common Voice Cymraeg
Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd
*Diweddariad* – Cafodd y ddeddfwriaeth ei wrthod. Bydd yn mynd nôl i’r Senedd Ewropeaidd ym mis Medi 2018 wedi’i adolygu. Gw. erthygl yn Wired Diolch i bawn wnaeth ymateb.
Linux Mint 19 Cinnamon
Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Sgrin Croeso Linux Mint 19 Mae “Tara” yn yn fersiwn newydd tymor hir fydd… Parhau i ddarllen Linux Mint 19 Cinnamon
Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd
Mae’n bosib eich bod yn ymwybodol y bydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg ymhen rhai dyddiau yn pleidleisio ar gyfraith hawlfraint newydd all wneud niwed sylfaenol i’r rhyngrwyd yn Ewrop. Mae’r neges yma’n seiliedig ar gais gan Raegan ac Owen ar ran Tîm Polisi Mozilla. Rydym wedi brwydro’n galed yn erbyn darpariaethau mwyaf peryglus y gyfraith… Parhau i ddarllen Deddf Senedd Ewrop ar Hawlfraint ar y Rhyngrwyd
WordPress a’r GDPR
Mae WordPress wedi ryddhau diweddariad i gynorthwyo defnyddwyr WordPress sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau newydd sy’n dod i rym ar Fai 25. ‘Mond 7 diwrnod i fynd! Mae’r diweddariad yn cynnwys rhoi dewis ar sut mae cwcis yn trin eu data personol, creu adran newydd i wefan ddarparu ei dudalen polisi preifatrwydd (Gosodiadau>Preifatrwydd),… Parhau i ddarllen WordPress a’r GDPR