Firefox Monitor

Mae gwasanaeth Firefox Monitor yn cynnig cyfle i weld os yw eich cyfrif(on) e-bost wedi cael eu torri a’r posibilrwydd fod eich manylion personol wedi eu cipio. Mae’r gwasanaeth, sy’n seiliedig ar Have I been pwnd, ar gael am y tro cyntaf yn Gymraeg. Bydd angen i chi sicrhau fod y Gymraeg yn uchaf ar ddewis iaith eich porwr i gael mynediad ato yn Gymraeg. O gyflwyno eich cyfeiriad e-bost bydd y gwasanaeth yn datgelu os yw eich cyfrif wedi cael ei dorri, pryd a pha gategori o ddata sydd wedi ei gyfaddawdu, e.e. cyfeiriadau e-bost, awgrymiadau cyfrinair, cyfrineiriau, enwau defnyddwyr, ac ati. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor ar sut i ddiogelu eich hunan yn erbyn dor data yn y dyfodol ac yn cynnig y gallu i chi dderbyn diweddariadau a rhybuddion ar gyfer y dyfodol. Mae’n wasanaeth sy’n werth ei ddefnyddio i ddiogelu eich hun, cofiwch gyfeirio eich teulu, ffrindiau a chydnabod ato, er mwyn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar-lein.

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.