@techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

Neithiwr yn seremoni gwobrwyo’r Royal College of Speech and Language Therapists derbyniodd Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wobr Giving Voice Award am eu gwaith yn datblygu Lleisiwr, project i greu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.

Dyfarnwyd y wobr yn sgil rhaglen Achub Llais John a welwyd ar S4C yn ystod yr haf eleni. Cynigydd am y wobr oedd Rhian Wyn, Therapydd Iaith a Lleferydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Llongyfarchiadau i’r criw, i Rhian ac i Gwion Hallam, luniodd rhaglen Achub Llais John ar gyfer S4C. Mae’r rhaglen i’w gweld ar Clic