Mae fersiwn Android /e/ bellach ar gael yn Gymraeg. Yn wahanol i’r mwyafrif o ROMs Android amgen, mae gan /e/ gynllun a chefnogwyr busnes gyda’r bwriad o greu fersiwn Android sydd ar gael i bawb heb fod yn rhaid i bobol gael sgiliau technegol arbennig a mentro i’w osod ar eu dyfeisiau eu hunain. Os… Parhau i ddarllen /e/ – Android Cymraeg Arall!
Awdur: Aled Powell
LineageOS – Android 100% yn Gymraeg, ond…
Mae pob gair o’r Android Open Source Project a LineageOS erbyn hyn wedi’u lleoleiddio ac Android ar gael am y tro cyntaf yn llawn yn Gymraeg*. Ond mae dal wir angen eich help chi i gywiro a gwella ambell beth. Lineage 15.1 a 16.0 Mae ROMs swyddogol 16.0 nawr yn cael eu hadeiladu yn ddyddiol… Parhau i ddarllen LineageOS – Android 100% yn Gymraeg, ond…
LineageOS – Android yn Gymraeg
Dyma ddiweddariad o ble mae’r gwaith lleoleiddio AOSP – yr Android Open Source Project – a LineageOS arni ar hyn o bryd. Fel pob prosiect cod agored arall, mae croeso i unrhyw un gyfrannu. Ymunwch yma: https://crowdin.com/profile/LineageOS Fersiwn Android Fersiwn LineageOS AOSP – Android Open Source Project (Android ei hun) LineageOS (ychwanegion LineageOS i AOSP)… Parhau i ddarllen LineageOS – Android yn Gymraeg
Dywedwch Shwmae Su'mae drwy Skype yn Gymraeg
Mae rhyngwyneb Cymraeg nawr ar gael ar gyfer Skype, rhaglen rydym i gyd yn gwybod amdano ac sydd hefyd yn ei wneud yn hawdd iawn i newid ac addasu iaith ei ryngwyneb. 1. Lawrlwythwch y ffeil iaith (ffeil testun .lang 347KB) 2. Yn newislen Skype, dewiswch Offer>Newid Iaith>Ychwanegu Ffeil Iaith Skype (canllaw gyda sgrinluniau)(Tools>Change Language>Add… Parhau i ddarllen Dywedwch Shwmae Su'mae drwy Skype yn Gymraeg
Porth Ieithoedd Microsoft: Adnodd terminoleg Cymraeg
Os ydych yn cyfieithu unrhyw beth ym maes TG neu jyst eisiau gwybod beth yw gair neu derm technegol yn Gymraeg, Saesneg neu un o ddwsinau o ieithoedd eraill, gall Porth Ieithoedd Microsoft fod o gymorth mawr i chi. http://www.microsoft.com/Language Mae’r adnodd ar gael ers peth amser, ond does dim sôn wedi bod amdano yma… Parhau i ddarllen Porth Ieithoedd Microsoft: Adnodd terminoleg Cymraeg