/e/ – Android Cymraeg Arall!

Sgrinlun /e/ 0.5 yn Gymraeg

Mae fersiwn Android /e/ bellach ar gael yn Gymraeg.

Yn wahanol i’r mwyafrif o ROMs Android amgen, mae gan /e/ gynllun a chefnogwyr busnes gyda’r bwriad o greu fersiwn Android sydd ar gael i bawb heb fod yn rhaid i bobol gael sgiliau technegol arbennig a mentro i’w osod ar eu dyfeisiau eu hunain. Os ydych eisiau mentro, mae /e/ ar gael yn Gymraeg ar gyfer nifer o ddyfeisiau yma: https://gitlab.e.foundation/e/wiki/en/wikis/devices-list

Dylwn i grybwyll fy mod efo /e/ yn gweithio ar ddyfais ers peth amser er mwyn gwirio’r Gymraeg ond heb ei ddefnyddio fel ffôn go iawn. Dyw /e/ ddim yn cynnwys Google Play a dw i heb osod gwasanaeth amgen er mwyn lawrlwytho a gosod apiau fy hun, felly dw i methu gwneud sylwadau ar ba mor dda mae’n gweithio ar hyn o bryd.

Gosodiadau /e/ yn Gymraeg

Bwriad /e/ yw creu fersiwn Android a fydd yn parchu preifatrwydd a gwarchod data defnyddwyr trwy beidio â chael unrhyw ddibyniaeth na chysylltiad â Google nac unrhyw gwmni anfoesol arall. Mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan: https://e.foundation/

Mae /e/ yn seiliedig ar LineageOS ac felly wrth i’r prosiect diweddaru ffeiliau’r system dros yr wythnosau diwethaf, mae lleoleiddiad Cymraeg LineageOS wedi ei fewnforio i /e/, gan olygu bod y Gymraeg mwy neu lai yn gyflawn erbyn hyn. (Ac mae’r gwall USB wedi’i drwsio.)

Ond mae dal angen lleoleiddio nifer o apiau gwahanol.

Mae LineageOS wedi ychwanegu at yn hytrach na newid elfennau o AOSP – yr Android Open Source Project – ac felly mae’n cynnwys yr un apiau sydd yn Android craidd, hynny yw gan Google. Er mwyn cael torri’r cysylltiad â Google, mae /e/ yn defnyddio nifer o apiau amgen yn lle’r rhai sydd yn AOSP a LineageOS, gan olygu bod yn rhaid eu lleoleiddio ar wahân.

Yn hytrach na defnyddio’r ap e-bost sydd yn AOSP, er enghraifft, mae /e/ wedi dewis defnyddio K-9 Mail. Trwy lwc mae K-9 Mail wedi’i lleoleiddio i’r Gymraeg cwpl o flynyddoedd nôl ac mae’n debyg eich bod chi eisoes wedi ei lawrlwytho a’i osod o Google Play ac yn ei ddefnyddio yn Gymraeg ar eich ffonau Android ers peth amser. https://play.google.com/store/apps/details?id=com.fsck.k9&hl=cy

Yn ogystal â K-9 Mail (ebost), mae’r apiau canlynol wedi’u lleoleiddio:

Rhai o apiau /e/

Mae rhestr llawn o’r apiau sy’n cael eu cynnwys yn /e/ ac felly sydd eisiau eu lleoleiddio yma: https://gitlab.e.foundation/e/apps

Tra bod /e/ yn defnyddio cod a lleoleiddiadau LineageOS a’r holl apiau uchod, mae hefyd yn newid eu henwau a dyw’r enwau mae /e/ yn eu rhoi arnyn nhw ddim eto yn ymddangos yn Gymraeg.