Aethon ni i Chapter, Caerdydd neithiwr (26 mis Ebrill 2010) am Hacio’r Iaith Bach – sesiwn sgwrs anffurfiol iawn. Diolch i bawb am ddod. Ces i amser da iawn. Neis i cwrdd â bobol ar y tro cyntaf.
Pynciau wnaethon ni trafod:
- Moodle, Blackboard a systemau i bobol sy’n dysgu/addysgu Cymraeg
- addysg a chynnwys (chwilio am Glantaf ar YouTube, dim digon o Gymraeg – canlyniadau siomedig)
- syniad am diwrnod/wythnos i dathlu Cymraeg arlein a hybu creu cynnwys (“Pethau Bychain” – rhywbryd eleni)
- ymchwil Daniel Cunliffe a Courtenay Honeycutt, erthygl am Facebook yn y Western Mail (rhan bach o’r erthygl arlein)
- Rhyngwynebau Cymraeg a chynnwys Cymraeg, oes unrhyw cysylltiad ystadegol? Pa mor pwysig yw rhyngwynebau Cymraeg gyda disgwyliadau/canfyddiadau? Ydy pobol yn creu mwy o gynnwys Cymraeg pan maen nhw yn defnyddio rhyngwynebau Cymraeg? (Angen ymchwil caled plis!) e.e. Facebook. Ond, enghraifft arall: YouTube, paid aros am byth am gyfieithiad y rhyngwyneb cyn lanlwytho dy fideos!
- Windows a meddalwedd swyddfa ayyb yn Gymraeg. Sut i newid dy Windows
- Democratiaeth, Etholiad 2010 a The Straight Choice
- Dr Cocos a Salwch Snobs, iPhone app ar gyfer plant bach
- Syniad am wefan: cwyno am wasanaeth Cymraeg
- Arduino a hacio caledwedd (cofnod ar y ffordd gobeithio rhywle)
- Gemau / mods
- Hacio’r Iaith a sesiynau anffurfiol agored
Dw i ddim wedi sgwennu popeth yma siŵr o fod. Mae sylwadau yn agor isod.
Roedd Hacio’r Iaith Bach yn HAWDD IAWN i drefnu! Hoffwn i weld pethau tebyg gyda’r un enw neu enwau gwahanol ledled Cymru. (Sut? 1. Gofynwch un neu dau ffrind am dyddiad/lleoliad; 2. Postiwch y manylion arlein fel sesiwn agored am ddim; 3. Ewch a siarad! Dau neu tri person yw digon ond byddwch yn agored i bobol newydd.)
Gobeithio dyn ni’n gallu trefnu rhywbeth debyg yn y dyfodol. Bydden ni ychwanegu manylion i’r tudalen digwyddiadau ar wici Hedyn.
Ha. Dwi wrthi’n ysgrifennu rhywbeth am microreolwyr Arduino. Dyle fo fod ar gael heddiw.
Diolch am drefnu neithiwr Carl. Wedi edrych ar sourcecode whatdotheyknow (cwyno am wasanaeth Cymraeg), a Rails yw’r code.
Huw, mae dau cofnod yn well nag un – edrych ymlaen!
Gareth, mae datblygiad yn dechrau digwydd yma
https://haciaith.cymru/2010/04/26/cwyno-yn-gyflym-am-wasanaeth-cymraeg-gan-sefydliadau-cyhoeddus-syniad-gwefan-gan-aluneurig/
Diolch am ddod!
Yn fan hyn:
http://www.newyddsbon.com/2010/04/duemilanove-a-bakertweet/