Beth sy’n Newydd Dyma Twenty Seventeen… Mae ein thema ragosodedig newydd yn bywiogi eich gwefan gyda delweddau llawn a phenynnau fideo. Mae Twenty Seventeen yn bennaf ar gyfer gwefannau busnes ac yn cynnwys tudalen ffont cyfaddas gydag adrannau lluosog. Gallwch ei bersonoli gydag ategion, dewislenni cymdeithasol, logo, lliwiau cyfaddas, a mwy. Mae ein thema ragosodedig… Parhau i ddarllen Croeso i WordPress 4.7
Leighton Andrews i annerch Hacio’r Iaith 2017
Am y tro cyntaf a 7fed mlwyddyn Hacio’r Iaith bydd gennym ni siaradwr gwadd i ddechrau’r diwrnod , a rydym yn falch iawn i gyhoeddi y bydd Leighton Andrews, cyn Weinidog Llywodraeth gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg a thechnoleg Cymraeg yn rhoi ei farn ar y pwnc ‘Llywodraeth, digidol ac arloesi’. Byddwch yn barod am… Parhau i ddarllen Leighton Andrews i annerch Hacio’r Iaith 2017
Iechyd y Rhyngrwyd
Mae Mozilla wedi cyhoeddi gwybodaeth bellach am eu hymgyrch i ddiogelu’r rhyngrwyd.
Ystadegau WordPress 4.7
Cynnydd arall yn nifer y defnyddwyr Cymraeg WordPress. Bydd WordPress 4.7 yn cael ei lansio tua Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.6. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 521 o becynnau ryddhau a 4,191 pecyn iaith hyd heddiw. Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.6… Parhau i ddarllen Ystadegau WordPress 4.7
Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn!
Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX. Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych… Parhau i ddarllen Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn!
Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor
Dyma neges fach sydyn i ddatgan ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2017! Bydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir. Yn y cyfamser cadwch… Parhau i ddarllen Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor
Diwrnod Ada Lovelace 2016 #diwrnodAdaLovelace
Dyma nodyn bach sydyn i’ch atgoffa bod Diwrnod Ada Lovelace yn digwydd ddydd Mawrth 11fed o Hydref 2016. Mae’r diwrnod yn gyfle i bostio rhywbeth ar y we am lwyddiannau menywod yn y meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Beth am gymryd rhan drwy drydar, blogio neu bostio am fenyw rydych chi’n edmygu? Mae rhagor… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2016 #diwrnodAdaLovelace
Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth
Tri chynnig: 1. Oes gennych chi awydd mynychu a chymryd rhan mewn digwyddiad Hacio’r Iaith yn 2017? Dyma fydd yr wythfed digwyddiad mawr o’r fath – digwyddiad anffurfiol ar Gymraeg a thechnoleg i oddeutu 60 o bobl. Byddai croeso cynnes i bawb. 2. Rydyn ni’n edrych at Fangor fel lleoliad y tro yma. Rydyn ni… Parhau i ddarllen Hacio'r Iaith 2017? Angen adborth
Macsen ar Radio Cymru!
Mae Macsen, y cynorthwywr digidol a’i ffrind gorau, Dewi Bryn Jones i’w clywed ar rhaglen radio Dinasoedd ar iPlayer y BBC . Mae’r eitem yn trafod slogan yr Uned Technoleg Iaith – Trwy Ddulliau Technoleg, a Macsen yn cychwyn tua 21:30 munud i fewn i’r rhaglen ond mae’n werth gwrando ar y rhaglen gyfan. Mae’r… Parhau i ddarllen Macsen ar Radio Cymru!
Haclediad 51: Parti Haf
Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb gael siawns i wylio, ac wrth gwrs, trafodaeth… Parhau i ddarllen Haclediad 51: Parti Haf