Dw i newydd glywed am brosiect archif y BBC i gefnogi pobl gyda dementia a’i gofalwyr. Mae’n swnio fel ffordd dda o sbarduno sgyrsiau mewn ffordd naturiol gyda phobl drwy fanteisio ar hen glipiau mewn system atgofion (gadewch sylw isod os oes term gwell na ‘system atgofion’). Dyma’r esboniad o’r wefan: Welcome to the BBC… Parhau i ddarllen Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr
55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017
Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i… Parhau i ddarllen 55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017
LibreOffice 5.3
Heddiw, mae fersiwn diweddaraf o LibreOffice yn cael ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru. Mae rhagor o wybodaeth ar LibreOffice i’w cael oddi ar eu gwefan Cymraeg. Nodweddion Newydd LibreOffice 5.3 Mae LibreOffice 5.3 yn llawn o nodweddion a diweddariadau newydd y mae modd eu defnyddio ar draws y pecyn. Gall llwybrau byr bysellfwrdd nawr gael eu… Parhau i ddarllen LibreOffice 5.3
Apton – cipolwg ar ap ffrydio Recordiau Sain
Ydy unrhyw un sy’n darllen hwn wedi ceisio Apton eto? Oes unrhyw argraffiadau cynnar? Oes ‘na lle yn eich bywyd am ap o’r fath a ffordd arall o chwarae tiwns? Dros y penwythnos ffeindiais i amser (rhwng syllu ar eitemau newyddion) i chwarae cwpl o diwns arno fe. Gyda llaw beth geisio sbarduno rhagor o sgyrsiau yn y… Parhau i ddarllen Apton – cipolwg ar ap ffrydio Recordiau Sain
Firefox Focus iOS
Heddiw mae Firefox yn rhyddhau Firefox Focus ar gyfer iPhone a’r iPad. Mae Firefox Focus ar gael yn Gymraeg a 26 iaith arall. Blaenoriaeth y porwr yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr na fyddan nhw’n cael eu tracio na’u haflonyddu gan hysbysebion diofyn. Mae’r Botwm Dileu amlwg yn ychwanegu ar allu’r defnyddiwr i ddiogelu ei hun.… Parhau i ddarllen Firefox Focus iOS
Llywodraeth, digidol ac arloesedd – fideo o gyflwyniad gan Leighton Andrews
Diolch i bawb am gymryd rhan yn Hacio’r Iaith 2017 ac i Ganolfan Bedwyr a chanolfan Pontio am ein croesawu! Dyma i chi fideo o gyflwyniad agoriadol Leighton Andrews yn Hacio’r Iaith 2017. Mae rhestr o fideos eraill o’r Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg ddydd Gwener hefyd (diolch Stefano). Mae croeso i unrhyw gyfranog[wraig|wr] bostio meddyliau… Parhau i ddarllen Llywodraeth, digidol ac arloesedd – fideo o gyflwyniad gan Leighton Andrews
54: Minilediad Hacio’r Iaith 2017
Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain… Parhau i ddarllen 54: Minilediad Hacio’r Iaith 2017
Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor: cipolwg ar sesiynau
Mae Hacio’r Iaith 2017 yn agosáu! Bydd croeso cynnes i bawb a mynediad am ddim (nid y band) ddydd Sadwrn yma. Ond mae angen cofrestru nawr… Cofrestru Mae angen cofrestru os ydych chi am fynychu a chymryd rhan (yn Adeilad Pontio, Bangor, ar Sadwrn, 21 Ionawr 2017). Mae llawer o lefydd wedi mynd eisoes ac… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2017 ym Mangor: cipolwg ar sesiynau
Tipyn o gamp: cynhadledd ar ddata agored yng Nghaerdydd, Chwefror 2017
Dyma fanylion am ddigwyddiad i unrhyw un sydd eisiau dysgu rhagor am y camp od o ddefnyddio data agored/rhydd.
HacDolig 2016
O’r diwedd, mae 2016 yn dod i ben, a mae’n amser am barti Nadolig yr Haclediad – mae na damed lleia o tech yn y bennod, ond llwyth o bŵz a trio argyhoeddi pawb y bydd popeth yn iawn yn y diwedd. Ciciwch tîn 2016 efo ni, Dolig Llawen! Doleni Racism Destroyed In One Minute!… Parhau i ddarllen HacDolig 2016