Mae fersiwn newydd o LibreOffice wedi ei ryddhau gyda nifer o welliannau defnyddiol. Mae’r manylion i’w gweld isod neu ar wefan Cymraeg LibreOffice: https://cy.libreoffice.org/ Nodweddion newydd i hybu eich gwaith. Mae cydnawsedd fformat ffeiliau wedi ei wella o fewn LibreOffice 5.4, gyda gwell cefnogaeth i ddelweddau fector EMF. Hefyd, mae ffeiliau PDF sydd wedi eu… Parhau i ddarllen LibreOffice 5.4
Y Cymro – archif ar-lein yn fyw
Mae dyfodol papur newydd Y Cymro yn ansicr ond mae grŵp Cyfeillion y Cymro wedi ei sefydlu i’w ail-lansio. Yn y cyfamser mae rhywun sy’n cysylltiedig â chwmni Tindle wedi tynnu’r plwg ar wefan Y Cymro yr wythnos hon – heb unrhyw rybudd na seremoni! Yn sydyn diflanodd dros 4500 o dudalennau oddi ar y… Parhau i ddarllen Y Cymro – archif ar-lein yn fyw
Haclediad 60: Buspass Nains
Llwythwch eich podfachwyr gyda’n rhifyn diweddaraf a joiwch yr haf! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod Hansh a Nation.cymru, cops a bychs arlein a pha mor hawdd ydi hi i fynd yn gaeth i scrolls diddiwedd. Hyn i gyd a llwyth o falu awyr, fydd digon i greu awel oer neis ar eich gwyliau.… Parhau i ddarllen Haclediad 60: Buspass Nains
Haclediad 59: Bryn on the Thunder
Ym mhennod danbaid 59 bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo Google i/o, yr Echo Show ac SOS yr NHS mewn tameidiau taclus o 10 munud (efo larwm newydd ‘fyd!). Ar ôl y gwychrwydd cwic-fire yna, bydd crwydrsgwrs draddodiadol am unrhyw beth arall sy’n popio mewn i’n pennau, E-readers yn y bath a BrynBlin™. Joiwch,… Parhau i ddarllen Haclediad 59: Bryn on the Thunder
Haclediad 58: Spring Breykjavik
Y tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd – mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe.
Haclediad 57: Yr Hashnods Perthnasol
Ym mhennod ddiweddaraf yr Haclediad bydd y Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut gall yr hashnods cywir ddileu terfysgaeth, pam mai dal dim ond bŵz siomedig sydd gan Sioned, Brwydr y Barfau a holi faint o turn on yw’r Switch. Ymunwch â nhw am awr o farn heb ymchwil na gwybodaeth, falle fydd o’n… Parhau i ddarllen Haclediad 57: Yr Hashnods Perthnasol
Twitter Lite – y ffordd gyflymaf o ddefnyddio Twitter ar gysylltiad gwan
Mae cwmni Twitter newydd lansio fersiwn Lite o’i wefan: https://twitter.com/Twitter/status/849866660882206721 Mae hi’n berffaith ar gyfer llefydd heb gysylltiad da – sydd o hyd yn cynnwys llawer iawn o gefn gwlad Cymru. Ewch i https://mobile.twitter.com i weld pa mor gyflym mae’r ap ar y we yn dangos eich ffrwd. Mae opsiwn aral o droi delweddau bant… Parhau i ddarllen Twitter Lite – y ffordd gyflymaf o ddefnyddio Twitter ar gysylltiad gwan
56: Bŵz rhad a Nokias anfarwol
Ym mhennod yma stori epic trawsnewidiad yr Haclediad o raglen tech i raglen gwirod a nostalgia; ry’n ni’n edrych ar y Nokia 3310, sy’ wedi ei atgyfodi, yn galaru am wasanaethau Google sy’n sicr ddim, ac yn chwennychu am Nintendo Switch, iei! Hyn i gyd a llwyth o sgwrsio, rhegfeydd a barn heb wybodaeth, yn… Parhau i ddarllen 56: Bŵz rhad a Nokias anfarwol
Rhowch 3 munud i helpu @Wicipedia Cymraeg
Helpwch Wicipedia Cymraeg trwy lenwi’r arolwg byr hwn yn ddi-enw os gwelwch yn dda: https://wikimedia.qualtrics.com/jfe/form/SV_1ZCNjkrqwRvxFrf Dylai fe gymryd rhyw dri munud i’w gwblhau. Diolch o galon i chi!
Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr
Dw i newydd glywed am brosiect archif y BBC i gefnogi pobl gyda dementia a’i gofalwyr. Mae’n swnio fel ffordd dda o sbarduno sgyrsiau mewn ffordd naturiol gyda phobl drwy fanteisio ar hen glipiau mewn system atgofion (gadewch sylw isod os oes term gwell na ‘system atgofion’). Dyma’r esboniad o’r wefan: Welcome to the BBC… Parhau i ddarllen Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr