Haclediad 58: Spring Breykjavik

Y tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd – mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe. Gei di weld os ‘di’n gweithio. Mwy am Siri a Gwlad yr Iâ, newidiadau bywyd o Facebook F8, Fitbit data yn y cwrt a llwythi mwy (yn cynnwys hanner awr arall o rambles i helpu ti gysgu, iei!)

Cofia roi seren-neu-bump i ni ar iTunes, ac os ti awydd, beth am roi adolygiad i ni gael gwybod be ti’n meddwl? Ffankiw!

O.N. gan Iestyn, sori am ansawdd gwael fy mic, #halfarsedwales an all that. Lot well tro nesaf, gaddo.

Dolenni