Mae Firefox yn rhedeg cystadleuaeth fideo 16 eiliad Firefox Fights for You ym mhob iaith posib. Byddai’n grêt cael rhai Cymraeg – beth amdani! Manylion creu’r fideo a’r testun: https://events.mozilla.org/firefoxfightsforyoucampaign
Awdur: Rhos Prys
Scratch 3.0 – y Scratch Newydd!
Mae Scratch wedi ei anelu at alluogi pobl ifanc o bob oed i raglennu eu straeon, gemau ac animeiddiadau rhyngweithiol eu hunain – a rhannu eu creadigaethau gydag eraill yng nghymuned ar-lein Scratch. Mae Scratch 3 yn cynnwys amryw o welliannau gan gynnwys, mae’n gweithio ar dabledi, estyniadau ar gyfer estyn galluoedd Scratch, gwell golygu… Parhau i ddarllen Scratch 3.0 – y Scratch Newydd!
Linux Mint 19.1
Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae Linux Mint 19.1 “Tessa” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.1
Adnoddau Codio yn Gymraeg
Dyma restr o rai o’r adnoddau sydd ar gael i ddysgu codio yn Gymraeg ac i godio yn Gymraeg. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddeunydd Scratch, Kodu, Python, ac ati. Hefyd mae gwybodaeth am yr hybiau gwybodaeth sydd ar gael sy’n cynnwys meddalwedd codio Cymraeg. Mae’r rhestr wedi ei llunio gan Gareth Morlais o Uned y… Parhau i ddarllen Adnoddau Codio yn Gymraeg
WordPress 5.0
Mae WordPress 5.0 nawr ar gael! Paratowch ar gyfer newidiadau sylfaenol i olygydd WordPress – mae nawr yn gweithio ar sail blociau. Mae’r golygydd yn ddatblygiad mae WordPress wedi bod yn gweithio arno ers tro er mwyn symleiddio creu cynnwys ar gyfer eu gwefannau ond mae modd defnyddio’r golygydd clasurol o hyd… Mae thema newydd… Parhau i ddarllen WordPress 5.0
Firefox Monitor
Mae gwasanaeth Firefox Monitor yn cynnig cyfle i weld os yw eich cyfrif(on) e-bost wedi cael eu torri a’r posibilrwydd fod eich manylion personol wedi eu cipio. Mae’r gwasanaeth, sy’n seiliedig ar Have I been pwnd, ar gael am y tro cyntaf yn Gymraeg. Bydd angen i chi sicrhau fod y Gymraeg yn uchaf ar… Parhau i ddarllen Firefox Monitor
Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg – Uned Technolegau Iaith
Dydd Gwener, 25 Ionawr, 2019, yn Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor 10.30 y bore i 4 y prynhawn http://techiaith.cymru/cynadleddau/cynhadledd-2019/ Bydd rhaglen y gynhadledd yn dilyn. Y drydedd yn ein cyfres ar gyfer academyddion ac ymarferwyr sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg. I’w agor gan… Parhau i ddarllen Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg – Uned Technolegau Iaith
Diweddariad Mis Hydref Common Voice Cymraeg
Newyddion am ddatblygiadau Common Voice Cymraeg i’w gweld ar wefan Meddal.com. Apêl arbennig i Hacwyr Iaith gyfrannu! Common Voice Cymraeg
Common Voice Cymraeg ar y Radio!
Bore’ma bues i ar rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru i siarad am Common Voice Cymraeg a chyfle i brofi mor hawdd yw recordio a dilysu lleisiau. Mae’r eitem hanner ffordd trwy’r rhaglen. Yn ystod yr eitem dwi ac Aled yn trafod sut mae mynd at y wefan yn voice.mozilla.org/cy ac wedyn gwrando a dilysu… Parhau i ddarllen Common Voice Cymraeg ar y Radio!
Mae’n Wythnos Codio!
Fel rhan o wythnos codio mae Scratch yn cynorthwyo plant a pobl ifanc i ddysgu sgiliau hanfodol ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif. Mae gan y RaspberryPi Foundation llwythi o ddeunyddiau Cymraeg ar eu gwefan ar gyfer chwarae/arbrofi. Cofiwch fod modd arbrofi gyda Scratch 3 Beta, sydd hefyd ar gael yn Gymraeg. Cliciwch y… Parhau i ddarllen Mae’n Wythnos Codio!