Cynhadledd Technoleg a’r Gymraeg – Uned Technolegau Iaith

Dydd Gwener, 25 Ionawr, 2019, yn Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor  10.30 y bore i 4 y prynhawn

http://techiaith.cymru/cynadleddau/cynhadledd-2019/

Bydd rhaglen y gynhadledd yn dilyn.

Y drydedd yn ein cyfres ar gyfer academyddion ac ymarferwyr sydd â diddordeb yn nefnydd a lledaeniad technolegau iaith mewn ieithoedd lleiafrifol, ac yn arbennig, y Gymraeg.

I’w agor gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes fydd yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg Llywodraeth Cymru

Ymhlith y siaradwyr eraill bydd:

Claudia Soria, Sefydliad Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol “A. Zamplli”, Pisa, yr Eidal: The DLDP’s Digital Language Survival Kit

Kelly Davis, Mozilla: Mozilla’s Deep Speech Project for Speech Recognition

Teresa Lynn, DCU, Iwerddon: Machine Translation and the Irish Experience

Myfyr Prys, Cysylltai KTP Cymen / Prifysgol Bangor: Cyfieithu Peirianyddol Parth Benodol

Jason Evans, Wikimediwr Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Wicipedia Cymraeg a Data Cymraeg Wikidata

Themâu’r gynhadledd fydd:

  • Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg
  • Strategaethau digidol ac adfywiad iaith
  • Adnabod Lleferydd ar gyfer y Gymraeg
  • Technolegau iaith fel gyrrwr i’r economi

Mae cofrestru ar gyfer y gynhadledd ar agor.

(Dim ond lle i 50 sydd.)

Noddir y gynhadledd gan Lywodraeth Cymru

 

Dolenni

Rhaglen y Gynhadledd

Arddangos meddalwedd

Pwyllgor gwyddonol

Llety ar gyfer y Gynhadledd

Lleoliad Y Ganolfan Rheolaeth a Pharcio