Common Voice Cymraeg ar y Radio!

Bore’ma bues i ar rhaglen Aled Hughes ar Radio Cymru i siarad am Common Voice Cymraeg a chyfle i brofi mor hawdd yw recordio a dilysu lleisiau.

Mae’r eitem hanner ffordd trwy’r rhaglen.

Yn ystod yr eitem dwi ac Aled yn trafod sut mae mynd at y wefan yn voice.mozilla.org/cy ac wedyn gwrando a dilysu lleisiau ac yna recordio eich llais eich hun.

Ymateb Aled oedd: Dowch bobl, gallwn ni wneud hyn!

Ychydig o leisiau hacwyr yr iaith dwi di clywed hyd yma. Beth amdani gyd-hacwyr? 🙂

voice.mozilla.org/cy

 

 

 

1 sylw

  1. Wedi cyfranni. Diolch i ti m ein argyhoeddi.. mwynhau dy raglen yn y bore; angen rhagor o’r un safon ar un ystwythir.

Mae'r sylwadau wedi cau.