Soniais am Freebase Gridworks pan ysgrifennais am OpenTech 2010. Roedd sôn bryd hynny bod Google yn mynd i’w ail-enwi a nawr maen nhw wedi gwneud: mae Google Refine yw e nawr. Rwyf wedi bod yn ei ddefnyddio am y tro cyntaf yr wythnos hon ac, fel roeddwn wedi disgwyl, mae’n declyn defnyddiol iawn i rywun… Parhau i ddarllen Google Refine
Awdur: Hywel Jones
Ysgrifennaf o'm rhan fy hun yma ran amlaf, nid yn rhinwedd fy swydd.
Cynhadledd Opentech 2010
Dyma ychydig o nodiadau am beth ddysgais neu welais yng nghynhadledd OpenTech 2010. Mae manylion pwy oedd yno, a rhagor, ar Lanyrd. Cafodd y gynhadledd ei noddi eleni gan data.gov.uk a’r sesiynau am ddata oedd yr rhai oedd o ddiddordeb pennaf i mi. Efallai i mai’r sesiwn cyntaf oedd y mwyaf diddorol o’m safbwynt i.… Parhau i ddarllen Cynhadledd Opentech 2010
Yahoo Pipes: adroddiadau Estyn
Es i gynhadledd AGI Cymru fis Rhagfyr diwethaf. Daliodd un o’r cyflwyniadau’n arbennig fy sylw, sef yr un ar Mobile GIS Mashups gan ddyn o Oxford Archaeology. Roedd yn frwd iawn am botensial Yahoo Pipes. Doeddwn i ddim wedi dod ar ei draws cyn hynny a phenderfynais gael golwg arno rywbryd. Adroddais ar f’ymdrechion i… Parhau i ddarllen Yahoo Pipes: adroddiadau Estyn