Ychydig yn ôl fe gysylltodd Y Lolfa a Amazon am gael ei llyfrau yn y siop eLyfrau Kindle, dywedodd Amazon eu bod nhw ddim yn cefnogi llyfrau Cymraeg, a byddai rhaid iddyn nhw gyflogi siaradwyr Cymraeg i brawf ddarllen y llyfrau cyn iddyn nhw gael eu gosod ar y safle.
Ar ôl clywed am y siom yma penderfynais gysylltu â Apple am eu iBookstore a gofyn iddynt a oeddynt yn cefnogi llyfrau yn yr iaith Gymraeg, ac yn nodweddiadol o Apple gefais ebost byr ac i’r pwynt yn ôl
“Yes, we support books in Welsh.”
Bellach rwyf wedi rhoi cais i mewn i fod yn gyhoeddwr ar yr iBookstore i allu gwerthu llyfrau, fe adawai chi wybod sut mae’n mynd yn y dyfodol.
Newyddion gwych.
Paid anghofio arwyddo ddeiseb Dyddymu TAW ar E-lyfrau – https://submissions.epetitions.direct.gov.uk/petitions/114
Be di’r cut ma Apple yn gymryd ar iBookstore? 30% ia?
Edrych fel bod Kindle Direct Publishing yr un peth: https://kdp.amazon.com/self-publishing/help?topicId=A30F3VI2TH1FR8
Ia, 30%. 70% oedd Amazon yn cymeryd cyn yr iBookstore.
40% “mark-up” yn arferol mewn siopau llyfrau.
Oes na ystadegau da chi’n ymwybodol ohonyn nhw ar faint potensial marchnad iBookstore (h.y. defnydd a gwerthiant llyfrau ar yr app, nid gwerthiant iPads) o’i gymharu â Kindle?