@techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

Neithiwr yn seremoni gwobrwyo’r Royal College of Speech and Language Therapists derbyniodd Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor wobr Giving Voice Award am eu gwaith yn datblygu Lleisiwr, project i greu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siarad o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.… Parhau i ddarllen @techiaith yn ennill gwobr RCSLT!

Haclediad 80: Pawb at y Biji-bô!

Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr: Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record. Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef… Parhau i ddarllen Haclediad 80: Pawb at y Biji-bô!

LibreOffice 6.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o LibreOffice wedi ei ryddhau gydag amryw o nodweddion newydd, y pennaf yw gwelliannau i’r Bar Adnoddau newydd sy’n ehangu’r swyddogaethau sydd ar gael ynddo. Dyma restr o’r nodweddion i gyd: Nodweddion Newydd i’r Bar Adnoddau! Mae rhyngwyneb defnyddiwr y Bar Adnoddau gyflwynwyd yn LibreOffice 6.2 wedi ei ddatblygu ymhellach ar gyfer… Parhau i ddarllen LibreOffice 6.3

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad 79: Ffeindia dy poni mewnol

Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman! Cefnogwch yr Haclediad ar Ko-Fi… Parhau i ddarllen Haclediad 79: Ffeindia dy poni mewnol

Common Voice Cymraeg yn yr Eisteddfod

Bydd gan ymgyrch Common Voice bresenoldeb ar faes yr Eisteddfod eleni. Dewch draw i stondin Common Voice Cymraeg sydd o dan ofal Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr @techiaith yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dewch i glywed am y datblygiad diweddaraf ym myd technoleg llais yn y Gymraeg! voice.mozilla.org/cy

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Linux Mint 19.2

Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf. Mae Linux Mint 19.1 “Tina” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.2

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad 78: FaceBucks

Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3. Mae’r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic!… Parhau i ddarllen Haclediad 78: FaceBucks

Mentrau Iaith yn gosod targed o 22 awr i helpu ymgyrch Common Voice Cymraeg

Mae Common Voice Cymraeg yn gofyn i siaradwyr y Gymraeg ym mhob cwr o’r byd i chwarae eu rhan wrth ddiogelu dyfodol digidol yr iaith Gymraeg trwy recordio a dilysu lleisiau. Mozilla, y cwmni meddalwedd, sy’n arwain ar y prosiect hwn mewn ymdrech i hybu gwasanaethau digidol yn yr iaith Gymraeg. Rhagor…  

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad #77: Huawehei!

Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a’r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae’r A-Gin-Da,… Parhau i ddarllen Haclediad #77: Huawehei!