700 yn cefnogi Common Voice!!

Rydym wedi cyrraedd 700 o gyfranwyr! Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. 🙂 Ar hyn o bryd mae gennym 40 awr o ddata wedi ei ddilysu a 47 awr wedi ei recordio. Felly, mae angen parhau i recordio gymaint ag y bo modd ac i wrando a dilysu lleisiau, os gwelwch chi’n… Parhau i ddarllen 700 yn cefnogi Common Voice!!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Fideo Gwrando ar leisiau ar Common Voice Cymraeg

Mae dilysu’r clipiau yn hanfodol i gael y dechnoleg i weithio ar ei orau. Dyma fideo’n dangos sut i gyfrannu tuag at wrando a dilysu clipiau llais Common Voice Cymraeg.   Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Fideo Recordio eich Llais i Common Voice Cymraeg

Fel anogaeth i LOT o bobl gyfrannu eu lleisiau LOT o weithiau i Common Voice Cymraeg, dyma gyflwyniad fideo ar sut mae gwneud. Oes, mae angen *LOT FAWR IAWN* o ddata. 🙂   Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu ffrindiau a chydweithwyr. Diolch!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith

Bydd rhai eisoes wedi gwylio’r rhaglen ddifyr ar S4C DRYCH: Achub Llais John am un o brosiectau’r Uned Technolegau Iaith ym Mangor. Gwyliwch y rhaglen os nad ydych chi wedi cael siawns eto. Dyma ddigwyddiad difyr yn Aberystwyth mae’r uned yn trefnu ym mis Mehefin – at sylw unrhyw un sydd eisiau cael profiad o… Parhau i ddarllen Common Voice, adnabod lleferydd, cyfieithu a mwy… Gweithdy ar y Porth Technolegau Iaith

WordPress 5.2

Gwaith pellach ar ddatblygu dull newydd WordPress o weithio drwy gyfrwng blociau. Mae’r pwyslais y tro yma ar gadw’r wefan yn ddiogel ac yn iach. Croeso i WordPress 5.2 Mae’r ategyn Classic Editor yn rhwystro’r defnydd o’r Golgydd Bloc newydd. Newid gosodiadau’r Classic Editor. Llongyfarchiadau ar ddiweddaru i WordPress 5.2! Mae’r diweddariad hwn yn ei gwneud… Parhau i ddarllen WordPress 5.2

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Swydd: Menter a Busnes yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau TG

Mae Menter a Busnes wedi gofyn i mi rannu’r cyfle isod. Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o fanylion. Mae Menter a Busnes yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau TG ym Mangor, Llanelwy, Aberystwyth neu Gaerdydd Am ragor o fanylion am y cyfle hwn cysylltwch trwy’r manylion sydd yn yr hysbyseb ar wefan y cwmni.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

/e/ – Android Cymraeg Arall!

Mae fersiwn Android /e/ bellach ar gael yn Gymraeg. Yn wahanol i’r mwyafrif o ROMs Android amgen, mae gan /e/ gynllun a chefnogwyr busnes gyda’r bwriad o greu fersiwn Android sydd ar gael i bawb heb fod yn rhaid i bobol gael sgiliau technegol arbennig a mentro i’w osod ar eu dyfeisiau eu hunain. Os… Parhau i ddarllen /e/ – Android Cymraeg Arall!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad #76: Mae Popeth Yn Ossym!

Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tĹ· bĂŞls heb drydan… Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rĂ®li’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o… Parhau i ddarllen Haclediad #76: Mae Popeth Yn Ossym!

Firefox Send – gwasanaeth rhannu ffeiliau

Mae Firefox Send yn wasanaeth rhannu ffeiliau rhad ac am ddim y gall unrhyw un ei defnyddio, does dim rhaid defnyddio Firefox na bod a Chyfrif Firefox. Mae modd ychwanegu ffeiliau hyd at 1GB fel defnyddiwr heb gofrestru. Mae maint y ffeiliau’n codi i 2.5Gb i ddefnyddwyr wedi’u cofrestru. Mae cofrestru’n golygu bod â Chyfrif… Parhau i ddarllen Firefox Send – gwasanaeth rhannu ffeiliau

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Haclediad 75: Sneaky Nest a Robo-Iest

Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets! Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffĂ´n mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!) Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd – Carl o… Parhau i ddarllen Haclediad 75: Sneaky Nest a Robo-Iest