Mae Linux Mint yn system weithredu Linux poblogaidd iawn ac mae ar gael gyda rhyngwyneb Cymraeg. Mae ei gynllun yn debyg i gynllun Windows traddodiadol ac felly yn ddeniadol  ar gyfer y sawl sy’n trosglwyddo i Linux am y tro cyntaf.

Mae Linux Mint 19.1 “Tina” yn yn fersiwn wedi ei ddiweddaru o linach Linux Mint 19.0. Mae llinach  Linux Mint 19 yn un tymor hir fydd yn cael ei gynnal tan 2023. Mae’r diweddariad yn cynnwys meddalwedd sydd wedi ei ddiweddaru, nifer o welliannau ac amryw o nodweddion newydd sy’n gwneud eich bwrdd gwaith yn le mwy cysurus.

Cinnamon yw’r bwrdd gwaith yma ac mae Linux Mint hefyd yn cynnig rhai eraill – MATE a xfce. Mae gwybodaeth am y rhain ar wefan Linux Mint. Mae’r gwaith lleoleiddio wedi digwydd ar ‘Cinnamon’. Mae modd gosod ‘Cinnamon’ ar ddosbarthiadau Linux eraill.

Mae manylion am yr holl newidiadau i’w gweld yma.

Bydd cyfarwyddiadau ar sut i ddiweddaru o Linux Mint 19.1 i Linux Mint 19.2 yn ymddangos ar y wefan yn fuan.