LibreOffice 6.3

Mae’r fersiwn diweddaraf o LibreOffice wedi ei ryddhau gydag amryw o nodweddion newydd, y pennaf yw gwelliannau i’r Bar Adnoddau newydd sy’n ehangu’r swyddogaethau sydd ar gael ynddo. Dyma restr o’r nodweddion i gyd:

Nodweddion Newydd i’r Bar Adnoddau!

Mae rhyngwyneb defnyddiwr y Bar Adnoddau gyflwynwyd yn LibreOffice 6.2 wedi ei ddatblygu ymhellach ar gyfer fersiwn 6.3. Mae’r Modd Tabiedig Cryno, yn y ddewislen Golwg, yn darparu rhagor o ofod ar gyfer eich dogfennau, taenlenni a chyflwyniadau. Gwyliwch y fideo Saesneg isod i weld sut mae’n gweithio – a dysgu am y nodweddion newydd yn y fersiwn yma.

https://youtu.be/SIBjmHSHs-w

Perfformiad sydyn

Gallwch nawr olygu eich dogfennau i dynnu neu guddio manylion sensitif. Gall hyn gynorthwyo eich gwmni neu gorff i gyd-fynd â rheoliadau lleol. Hefyd, mae modd allforio dogfennau fel templedi .dotx a .xltx, ar gyfer gwell cydnawsedd â Microsoft Office, tra bod cefnogaeth i PDF/A-2 wedi ei gyflwyno.

Grymuso eich taenlenni

Yn Calc, mae teclyn cwymplen newydd yn y bar fformiwla yn cymryd lle’r hen declyn Sum, yn cynnig mynediad sydyn i’r defnyddiwr i’r swyddogaethau mwyaf poblogaidd. Hefyd, mae swyddogaeth FOURIER wedi ei ychwanegu i gyfrifo’r trawsnewid Fourier o’r arae mewnbwn.

LibreOffice Ar-lein – eich offer swyddfa, ym mhob man

Yn LibreOffice Ar-lei, fersiwn y cwmwl o LibreOffice, gallwch nawr weld ffeiliau Microsoft Visio.  Hefyd, mae nawr yn bosib i ychwanegu nodau dŵr ac mae nodweddion fformatio amodol wedi eu hychwanegu i Calc.