WordPress 5.5 Newydd

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WoesPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau ym meysydd cyflymder, chilio a diogelwch.

Bydd unrhyw linynnau testun newydd yn cael eu trosglwyddo i WordPress.com ar gyfer defnyddwyr Cymraeg fanna hefyd, Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.

Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich bwrdd gwaith):

Croeso i WordPress 5.5.

Yn WordPress 5.5, mae eich gwefan yn cael ei rymuso o’r newydd mewn tri phrif faes: cyflymder, chwilio a diogelwch.


Cyflymder

Mae cofnodion a thudalennau’n teimlo’n gyflymach, diolch i ddelweddau diog wedi’u llwytho.

Mae delweddau’n ddylanwadol iawn i’ch stori, ond weithiau gallan nhw wneud i’ch gwefan ymddangos yn araf.

Yn WordPress 5.5, mae delweddau’n aros i’w llwytho nes eu bod ar fin sgrolio i’r golwg. Y term technegol yw ‘llwytho diog.’

Ar symudol, mae llwytho diog hefyd yn gallu cadw porwyr rhag llwytho ffeiliau wedi’u bwriadu ar gyfer dyfeisiau eraill. Gall hynny arbed arian i’ch darllenwyr ar ddata – a helpu i arbed bywyd batri.

Chwilio

Dwedwch helo wrth y map gwefan newydd

Mae gwefannau WordPress yn gweithio’n dda gyda pheiriannau chwilio.

Nawr, yn ragosodedig, mae WordPress 5.5 yn cynnwys map gwefan XML sy’n helpu peiriannau chwilio i ddarganfod eich tudalennau pwysicaf o’r union funud rydych chi’n mynd yn fyw.

Felly bydd mwy o bobl yn dod o hyd i’ch gwefan yn gynt, gan roi mwy o amser i chi ymgysylltu, eu cadw a’u trosi’n danysgrifwyr, cwsmeriaid neu beth bynnag sy’n gweddu i’ch diffiniad o lwyddiant.


Diogelwch

Diweddariadau awtomatig ar gyfer Ategion a Themâu

Nawr gallwch osod ategion a themâu i’w diweddaru’n awtomatig – neu beidio! – yn y weinyddiaeth WordPress. Felly rydych bob amser yn gwybod bod eich gwefan yn rhedeg y cod diweddaraf sydd ar gael.

Gallwch hefyd droi diweddariadau awtomatig ymlaen neu i ffwrdd ar gyfer pob ategyn neu thema rydych chi wedi’u gosod – i gyd ar yr un sgriniau rydych chi wedi’u defnyddio erioed.

Diweddarwch trwy lwytho ffeiliau ZIP

Os yw diweddaru ategion a themâu â llaw yn bwysig i chi, nawr mae hynny’n haws hefyd – dim ond llwytho ffeil ZIP.

Fideo: Sgrin ategyn wedi’i osod, sy’n dangos colofn newydd, Diweddariadau Awtomatig. Yn y golofn hon mae botymau sy’n dangos “Galluogi diweddaru awtomatig.” Wrth glicio, mae’r nodwedd diweddariadau awtomatig yn cael ei droi ymlaen ar gyfer yr ategyn hwnnw ac mae’r botwm yn newid i ddangos “Analluogi diweddaru awtomatig”.

Uchafbwyntiau’r golygyddion bloc

Unwaith eto, mae’r ryddhad WordPress diweddaraf yn cynnig rhestr hir o nodweddion newydd cyffrous ar gyfer y golygydd bloc.


Patrymau bloc

Mae patrymau bloc newydd yn ei gwneud hi’n syml ac yn hwyl i greu cynlluniau cymhleth, hardd, gan ddefnyddio cyfuniadau o destun a chyfryngau y gallwch eu cymysgu a’u paru i gyd-fynd â’ch stori.

Fe welwch hefyd batrymau bloc mewn amrywiaeth eang o ategion a themâu, gyda mwy yn cael eu hychwanegu trwy’r amser. Dewiswch unrhyw un ohonyn nhw o gwymplen sengl – cliciwch a mynd!

Golygu delwedd mewn-lin

Tocio, cylchdroi, a chwyddo’ch lluniau o’r bloc delwedd. Os ydych chi’n treulio llawer o amser ar ddelweddau, gallai hyn arbed oriau i chi!

Y Cyfeiriadur Bloc Newydd

Nawr mae’n haws nag erioed i ddod o hyd i’r bloc sydd ei angen arnoch chi. Mae’r cyfeiriadur bloc newydd wedi’i ymgorffori yn y golygydd bloc, felly gallwch osod mathau newydd o flociau i’ch gwefan heb fyth adael y golygydd.

A llawer iawn mwy.

Mae’r uchafbwyntiau uchod yn elfen fechan o’r nodweddion golygydd bloc newydd rydych chi newydd eu gosod. Agorwch y golygydd bloc a mwynhewch!


Hygyrchedd

Mae pob ryddhad yn ychwanegu gwelliannau i’r profiad cyhoeddi hygyrch, ac mae hynny’n parhau i fod yn wir am WordPress 5.5.

Nawr gallwch gopïo dolenni mewn sgriniau cyfryngau a deialogau moddol gyda botwm, yn lle ceisio tynnu sylw at linell o destun.

Gallwch hefyd symud blychau meta gyda’r bysellfwrdd, a golygu delweddau yn WordPress gyda’ch dyfais hygyrchedd, oherwydd gall ddarllen y cyfarwyddiadau yn y golygydd delwedd i chi.


Ar gyfer Datblygwyr

Mae 5.5 hefyd yn dod â llwythi o newidiadau dim ond ar gyfer datblygwyr..

Blociau cofrestredig ar ochr y gweinydd yn yr API REST

Mae ychwanegu pwyntiau diwedd mathau o flociau yn golygu y gall apiau JavaScript (fel y golygydd bloc) adfer diffiniadau ar gyfer unrhyw flociau sydd wedi’u cofrestru ar y gweinydd.

Eiconau’r Bwrdd Gwaith (Dashicons)

Mae llyfrgell Dashicons wedi derbyn ei diweddariad terfynol yn 5.5. Mae’n ychwanegu 39 eicon golygydd bloc ynghyd â 26 arall.

Diffinio amgylcheddau

Bellach mae gan WordPress ffordd safonol o ddiffinio’r math o amgylchedd gwefan (llwyfannu, cynhyrchu, ac ati). Adalwch y math hwnnw gyda wp_get_environment_type() a gweithredu’r cod priodol yn unig.

Pasio data i ffeiliau templedi

Mae gan y swyddogaethau llwytho templedi (get_header(),get_template_part(), ac ati) ymresymiad newydd $args. Felly nawr gallwch drosglwyddo gwerth arae cyfan o ddata i’r templedi hynny.

Rhagor o newidiadau ar gyfer datblygwyr

  • Cafodd llyfrgell PHPMailer ddiweddariad mawr, gan fynd o fersiwn 5.2.27 i 6.1.6.
  • Nawr, cewch fwy o reolaeth o redirect_guess_404_permalink().
  • Bydd gwefannau sy’n defnyddio OPcache PHP yn gweld annilysu storfa mwy dibynadwy, diolch i’r swyddogaeth wp_opcache_invalidate() newydd yn ystod diweddariadau (gan gynnwys ategion a themâu).
  • Mae modd i fathau o gocofnod penodol sy’n gysylltiedig â’r tacsonomeg categori nawr gael eu dewis i gefnogi’r term rhagosodedig.
  • Bellach mae modd nodi telerau rhagosodedig ar gyfer tacsonomeg cyfaddas yn register_taxonomy().
  • Mae API REST bellach yn cefnogi’n swyddogol nodi gwerthoedd metadata rhagosodedig trwy register_meta().
  • Fe welwch fersiynau wedi’u diweddaru o’r bwndel o lyfrgelloedd hyn: SimplePie, Twemoji, Masonry, imagesLoaded, getID3, Moment.js, a clipboard.js.

Darllenwch y Canllaw Maes am fwy!

Mae yna lawer mwy i ddatblygwyr ei hoffi yn WordPress 5.5. I ddarganfod mwy a dysgu sut i wneud i’r newidiadau hyn ddisgleirio ar eich gwefannau, themâu, ategion a mwy, darllenwch y WordPress 5.5 Field Guide.