Mae cwmni Twitter newydd lansio fersiwn Lite o’i wefan: https://twitter.com/Twitter/status/849866660882206721 Mae hi’n berffaith ar gyfer llefydd heb gysylltiad da – sydd o hyd yn cynnwys llawer iawn o gefn gwlad Cymru. Ewch i https://mobile.twitter.com i weld pa mor gyflym mae’r ap ar y we yn dangos eich ffrwd. Mae opsiwn aral o droi delweddau bant… Parhau i ddarllen Twitter Lite – y ffordd gyflymaf o ddefnyddio Twitter ar gysylltiad gwan
Categori: Amrywiol
Rhowch 3 munud i helpu @Wicipedia Cymraeg
Helpwch Wicipedia Cymraeg trwy lenwi’r arolwg byr hwn yn ddi-enw os gwelwch yn dda: https://wikimedia.qualtrics.com/jfe/form/SV_1ZCNjkrqwRvxFrf Dylai fe gymryd rhyw dri munud i’w gwblhau. Diolch o galon i chi!
Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr
Dw i newydd glywed am brosiect archif y BBC i gefnogi pobl gyda dementia a’i gofalwyr. Mae’n swnio fel ffordd dda o sbarduno sgyrsiau mewn ffordd naturiol gyda phobl drwy fanteisio ar hen glipiau mewn system atgofion (gadewch sylw isod os oes term gwell na ‘system atgofion’). Dyma’r esboniad o’r wefan: Welcome to the BBC… Parhau i ddarllen Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr
LibreOffice 5.3
Heddiw, mae fersiwn diweddaraf o LibreOffice yn cael ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru. Mae rhagor o wybodaeth ar LibreOffice i’w cael oddi ar eu gwefan Cymraeg. Nodweddion Newydd LibreOffice 5.3 Mae LibreOffice 5.3 yn llawn o nodweddion a diweddariadau newydd y mae modd eu defnyddio ar draws y pecyn. Gall llwybrau byr bysellfwrdd nawr gael eu… Parhau i ddarllen LibreOffice 5.3
Firefox Focus iOS
Heddiw mae Firefox yn rhyddhau Firefox Focus ar gyfer iPhone a’r iPad. Mae Firefox Focus ar gael yn Gymraeg a 26 iaith arall. Blaenoriaeth y porwr yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr na fyddan nhw’n cael eu tracio na’u haflonyddu gan hysbysebion diofyn. Mae’r Botwm Dileu amlwg yn ychwanegu ar allu’r defnyddiwr i ddiogelu ei hun.… Parhau i ddarllen Firefox Focus iOS
Tipyn o gamp: cynhadledd ar ddata agored yng Nghaerdydd, Chwefror 2017
Dyma fanylion am ddigwyddiad i unrhyw un sydd eisiau dysgu rhagor am y camp od o ddefnyddio data agored/rhydd.
Croeso i WordPress 4.7
Beth sy’n Newydd Dyma Twenty Seventeen… Mae ein thema ragosodedig newydd yn bywiogi eich gwefan gyda delweddau llawn a phenynnau fideo. Mae Twenty Seventeen yn bennaf ar gyfer gwefannau busnes ac yn cynnwys tudalen ffont cyfaddas gydag adrannau lluosog. Gallwch ei bersonoli gydag ategion, dewislenni cymdeithasol, logo, lliwiau cyfaddas, a mwy. Mae ein thema ragosodedig… Parhau i ddarllen Croeso i WordPress 4.7
Iechyd y Rhyngrwyd
Mae Mozilla wedi cyhoeddi gwybodaeth bellach am eu hymgyrch i ddiogelu’r rhyngrwyd.
Ystadegau WordPress 4.7
Cynnydd arall yn nifer y defnyddwyr Cymraeg WordPress. Bydd WordPress 4.7 yn cael ei lansio tua Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.6. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 521 o becynnau ryddhau a 4,191 pecyn iaith hyd heddiw. Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.6… Parhau i ddarllen Ystadegau WordPress 4.7
Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor
Dyma neges fach sydyn i ddatgan ein bod ni wedi cadarnhau dyddiad a lleoliad Hacio’r Iaith 2017! Bydd croeso cynnes i bawb fynychu a chymryd rhan mewn cyfres o sesiynau, gweithdai, trafodaethau a chyflwyniadau am ddefnydd o’r Gymraeg yn y cyfryngau digidol. Bydd rhagor o fanylion gan gynnwys cofrestru cyn hir. Yn y cyfamser cadwch… Parhau i ddarllen Bydd Hacio Iaith 2017 ar ddydd Sadwrn 21 Ionawr yng Nghanolfan Pontio, Bangor