Firefox Focus iOS

Heddiw mae Firefox yn rhyddhau Firefox Focus ar gyfer iPhone a’r iPad. Mae Firefox Focus ar gael yn Gymraeg a 26 iaith arall.

Blaenoriaeth y porwr yw rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr na fyddan nhw’n cael eu tracio na’u haflonyddu gan hysbysebion diofyn. Mae’r Botwm Dileu amlwg yn ychwanegu ar allu’r defnyddiwr i ddiogelu ei hun.

Mae modd llwytho Firefox Focus o’r App Store a dewis Cymraeg o’r Gosodiadau>Iaith

Mae modd darllen rhagor am dracio, diogelwch ar y we a llywodraethau’n gwylio i’w weld yn Deall yn Well

Rhagor am waith Mozilla yn Gymraeg.