“Be ti lan i Dai?” medd y robot yn y peiriant fel rhyw fath o atgof o “Ghost in the Machine” Jung-aidd via Sting yr 80au.
Yr ateb byr byddai : “Colli fy nghyfrinair, myn uffach i”.
Yr ateb hwy :
>>>
MA yn y Cyfryngau Creadigol Ymarferol yn Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yng nghwmni athronyddol Rhodri ap Dyfrig a Greg Bevan ymysg eraill…dim ond fi sy’n galw’r lle yn “Think Tank” (Melin Meddwl?) mae’n debyg.
Welwch chi ambell un o fy nhraethodau dadansoddiadol, athronyddol eu naws ar http://golwg360.com/blog/dai-lingual sydd heddi wedi ei ddiweddaru a’r newyddion fod allbwn y cywaith wedi cyrraedd 100 [cant] fideo ar http://youtube.com/panwalesmusiccymru
megis
sef ymarfer o’n sioe (hanfodol) ar y cyd fel @cyfrwngcreuaber sy’n arddangos
1) sgiliau cerddorol Dai Lingual wrth y tabled Mwyar Duon ‘ever-present’ (holl-bresennol?) Playbook
2) monolog byrfyfyr am obligiadau carcharu troseddwyr heb ebost.
Cafwyd #adolygiad-au weddol canologol i’r sioe, yn arbennig gan Nwdls a Bevan Snr chwarae teg, felly efallai – a dim ond efallai – bydd gennych chi chwant mynd ar ol y cwpl o ddarnau o ffilm cafwyd eu pre-recordio a’u defnyddio yn y sioe ei hun. Yn ogystal ag ambell i ‘out-take’ o’r ymarferion gyda’r talentog Lewis Alun, Catrin Mair Davies a’r cyfarwyddwr @nicodafydd
A cyn i chi ofyn, ie dahling dwi’n actor o fri ac mi oedd pob dim wedi sgriptio i’r sioe ei hun. Yn rhyfedd iawn, mi oeddwn i’n chwarae cantor ffaeliedig…
Golygfa arall o’r Sioe Cyffesaf
Dawns coreograffwyd gan Catrin Mair, fersiwn Sianel 62 i gyfeiliant Nia Morgan
Sgwennais i draethawd ( yn llythrennol) yn son am sut y gallen ni wedi bod yn fwy ysgytwol o ran cyflwyno’r sioe yn fyw ar y we, ac o edrych nol efallai rwy’n difaru peidio ceisio gwneud mwy o ran ochr aml-gyfryngol i’r sioe; creuais i ffrwd twitter wrth reswm sef www.twitter.com/cyfrwngcreuaber a oedd ag ambell i lun o’r cynhyrchiad cyn y noswaith gyntaf,
ond tra ein bod ni’n aros i weld a oes gan unrhywun yr amser a’r adnoddau i ddod a chynhyrchiad gweledol llawn o’r perfformiad, y sgraps yma yw’r unig bethau sy’n weddill sydd ar gael i chi weld.
Dwi’n weddol sicr fod y defnydd o fewn y sioe ‘byw’ o ddeunydd wedi ei recordio o flaen llaw ar dabled yn weddol newydd i’r llwyfan fodd bynnag ( give or take a Bradley Manning), felly dyna’r prif reswm i mi ddiweddaru blog yma nawr.
I ddweud y gwir, nes i’r camgymeriad o beidio a mynd i weld y sioe Bradley Manning, ond roedd ceisio defnyddio technoleg mewn ffordd arloesol yn ran anotod o’r broses o greu’r sioe, os nid y sioe gorffenedig ei hun!
Felly “mwynhewch”!
a hwyl yr Wyl Cardiffrinj! -gyda llaw os chwant creu ffrwd digiol byw bryd hynny o sesiwn draddodiadol?
D. Llun Hydref 21 efallai, cyn www.womex.com ar y d.Mercher.
Dwi ar fin mynd draw i’r Fleadh yn Iwerddon i weld sut ma nhw am ddarlledu yn fyw o’r Wyl Werin yna via’r rhyngrwyd … i deledu TG4! Her arbennig i’r criw technegol…dwi’n gobeithio treulio gymaint o amser a sy’n bosib yn gweld yn union sut meant am wneud hynny er mwyn dod a’r gwersi yn ol i Gymru wrth gwrs.
iWyn
ON gobeithio bod yn Steddfod man lleiaf Mercher-Gwener… a oes #haciaith?